Cyflwyniad gan Elinor Bennett, Cyfarwyddwraig Artistig yr Ŵyl:
Cynhelir pumed Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri Caernarfon o’r 5-11 o Ebrill 2023, a chawn gyfle euraid i ddod â phobl at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth telyn o ddiwylliannau amrywiol ledled y byd.
Edrychaf ymlaen yn eiddgar at wrando ar berfformiadau mewn cyngherddau, datganiadau a chystadleuthau, ac at rannu traddodiadau’r delyn yng Nghymru a gwledydd Celtaidd eraill gyda thelynorion o Colombia yn Ne America a Gambia yn Affrica.
Gall cerddoriaeth oresgyn ffiniau daearyddol a gwrthdaro milwrol, a gall gryfhau clymau cyfeillgarwch rhwng pobl mewn gwledydd pell. Bydd croeso cynnes yn disgwyl ymwelwyr i Gaernarfon dros y Pasg nesaf, a gallwn sicrhau gwefr wrth wrando ar seiniau degau o delynau yn atseinio ar galeriau’r Galeri wedi tawelwch hunllefus a nerfusrwydd cyfnod y Cofid.
Gan mai hon fydd yr Ŵyl olaf i mi ei threfnu, rwyf wedi dewis cerddoriaeth sy’n adlewyrchu llwybr gerddorol fy mywyd ac sydd wedi rhoi llawer o bleser i mi, o’r canu traddodiadol o fro fy mebyd, i uchafbwyntiau repertoire y delyn yn rhyngwladol, a cherddoriaeth newydd.
Bydd rhaglen lawn yn cynnwys cyngherddau gan rai o delynorion gorau’r byd, cystadlaethau, dosbarthiadau meistr, darlithoedd a gweithdai i ddechreuwyr, sesiynnau i blant bach, a chyfle i bobl anabl a dechreuwyr llwyr, roi eu dwylo ar dannau’r delyn am y tro cyntaf.
Un gweithgaredd newydd fydd cyfres o sgyrsiau (wedi’u recordio o flaen llaw) gyda sawl telynor a thelynores enwog o bob cwr o’r byd na fydd yn gallu teithio i Gaernarfon. Bydd hyn yn ein galluogi i ddysgu mwy am hanes y delyn ac am fywyd a gwaith mawrion y delyn yn rhyngwladol.
Diolchwn o waelod calon i’n noddwyr. Hebddyn nhw, fyddai’r Ŵyl yma ddim yn bosibl.
Am fwy o fanylion am yr Ŵyl: walesharpfestival.co.uk