Yn anffodus, nid ydym yn cyfnewid nac yn rhoi arian yn ôl am docynnau. OS bydd tocynnau wedi gwerthu allan a rhestr aros mewn lle, gallwn werthu eich tocyn[nau] am £1 y tocyn (ffi gweinyddu)
Byddwn yn codi £1 [pob tocyn] am:
- Ail argraffu tocynnau coll
- Newid tocynnau [amser / diwrnod]
- Newid sedd[i]
Dim ond bwyd sy’n cael ei brynu yn yr adeilad a chaniateir ei fwyta yn adeilad Galeri. Gallwn hefyd ofyn am gerdyn adnabyddiaeth i brofi eich bod yn 18 oed os am brynu alcohol.
Pan fo’n bosib, rydym yn rhoi canllaw oed ar rai digwyddiadau os oes iaith gref deunydd o natur rywiol ac ati. Noder hyn yn y rhaglen dymhorol ac/neu ar wefan Galeri.
Gyda dangosiadau ffilm, y BBFC sydd yn gyfrifol am osod rhain. Caiff mwy o wybodaeth yma
Tystysgrif a Diffiniad
Yn addas i bawb
Gall plant unrhyw oed fynychu os yw rhiant yn fodlon/caniatau
Mae’n rhaid bod yn 12 oed i wylio’r ffilm NEU caniateir plant iau fynychugyda oedolyn (oed 18+)
Addas i oed 15+ yn unig
Addas i oed 18+ yn unig
Caniateir cŵn tywys yn unig i adeilad Galeri.
Ar gyfer gallu ymateb yn y ffordd orau posib i’ch cwyn, gofynnwn i chi nodi eich cwyn o fewn 14 diwrnod o’r digwyddiad/mater dan sylw.
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am unrhyw beth, gallwch wneud yn y dulliau isod:
1 | Siarad gyda aelod o staff / rheolwr ar ddyletswydd
Hoffem allu delio gyda problemau/cwynion yn y fan a’r lle os yn bosib.
2 | Os oes angen ymchwilio i’r cwyn ymhellach, byddwn yn gofyn i chi gwyno yn ysgrifenedig (ar ffurf llythyr neu ebost - yn Gymraeg / Saesneg). Byddwn yn edrych ar y cwyn ac yn trafod gyda’r staff oedd ar ddyletswydd neu’r adrannau perthnasol am ymateb swyddogol.
Os cewch unrhyw broblem neu os oes gennych gwestiwn penodol, gadewch i ni wybod:
01286 685 222 | post@galericaernarfon.com
neu holwch aelod o staff.
Ni all Galeri fod yn gyfrifol am unrhyw eiddo coll o fewn yr adeilad.
Mae posib talu am docynnau gyda arian parod, cerdyn credyd/debyd neu siec [taler Galeri Caernarfon Cyf].
Gall archebion grŵp dalu drwy BACS.
Ni fyddwn yn codi ffi archebu os yn prynu eich tocynnau dros y cownter.
Codir £1 am archebu tocynnau ar-lein neu dros y ffôn a £1 ychwanegol am bostio tocynnau
Gofynnwn i chi ddiffodd eich ffonau symudol pan yn mynychu digwyddiadau. Os oes yn rhaid gadael eich ffôn ymlaen am ba bynnag reswm, sicrhewch ei fod yn dawel fel na fydd yn amharu ar fwynhad eraill yn y gynulleidfa.
NI chaniateir tynnu lluniau, ffilmio na recordio sain tra yn mynychu digwyddiad ar unrhyw achlysur.
Yng ngwir draddodiad y theatr – bydd perfformiadau yn parhau os bydd artist/Cwmni yn gallu perfformio.
Ni all Galeri awgrymu na chynghori pa bryd mae hi’n ddiogel i deithio - rhaid i’r unigolyn benderfynu hynny dros eu hunain. Os ydych chi’n dewis teithio mewn tywydd garwm gofynnwn i chi adael digon o amser i gyrraedd yn ddiogel gan gysidro cyflwr y ffyrdd ac amser parcio. Ni allwn gynnig ad-daliadau i unigolion sy’n teimlo nad ydynt yn gallu teithio. Os oes gennym gyfres o sioeau/dangosiadau – gallwn gynnig trosglwyddo’r tocynnau i amser/diwrnod arall. Gellir trefnu hyn yn uniongyrchol gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685 222.
Ar achlysur pan mae’n rhaid gohirio perfformiad o safbwynt Galeri – byddwn yn cysylltu gyda’r cwsmeriaid (os oes gennym rif cyswllt) i hysbysu o’r trefniadau a drwy wefan a gwefannau cymdeithasol Galeri.
Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am reoli’r maes parcio. Os oes unrhyw fater ynglyn a thocyn parcio – bydd angen cysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Mae gan Galeri yr hawl i ganslo neu newid (amser/dyddiad) y rhaglen a hysbysebwyd. Yn achlysurol, gall newid i’r artistiaid/perfformwyr ddigwydd oherwydd salwch neu resymau personol. Ni fyddwn yn gallu trefnu ad-daliadau ar sail hyn.
Rydym yn caniatau cwn ar dennyn yn mannau cyhoeddus Galeri ag eithrio’r Theatr a Sinemau lle caniateir cwn tywys yn unig.
Oni bai bydd cwmni/artist yn gwrthwynebu, caniateir diodydd yn rhesi 1 – 14 yn y theatr/sinema (mewn plastig).
Oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, yn anffodus ni chaniateir diodydd yn y balconi (rhesi 15 – 21).
Bydd y bar yn cau 10 munud cyn amser cychwyn digwyddiad.
Mae Galeri Caernarfon Cyf wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a data personol ein cwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cydfynd gyda cyfraith Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Dyma fanylu ychydig ar sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio’r wybodaeth.
Pa fanylion sydd yn cael ei gasglu?
Byddwn yn gofyn am eich manylion (enw / cyfeiriad / rhif ffôn / ebost) pan y byddwch yn cofrestru, archebu tocynnau, gwneud ymholiad neu archebu darn o waith celf gennym.
Pan yn archebu tocynnau
Byddwn yn cadw eich enw, manylion cyswllt a’r dull cysylltu mwyaf cyfleus pan yn archebu tocyn(nau). Ni fyddwn yn cadw manylion cerdyn/taliad ar unrhyw achlysur.
Pan yn defnyddio ein gwefan
Gallwn gasglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a'ch math o borwr lle bo'r wybodaeth honno ar gael, er mwyn gweinyddu'r system a rhoi gwybodaeth gyfunol i'n hysbysebwyr. Data ystadegol yw hwn am gamau a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw'n enwi unrhyw unigolyn.
Gallwn hefyd fonitro traffig defnyddwyr cyfunol i'n helpu i ddatblygu a gwella ein gwefan er budd pob defnyddiwr.
Y wybodaeth rydym yn ei gasglu a pham?
Gan ddefnyddio’r wybodaeth uchod – gallwn gael dealltwriaeth gwell o’n cynulleidfaoedd, aelodau a gallu
Gwella ein cynnig o ran digwyddiadau a gwasanaethau. Gallwn gasglu a phrosesu'r data canlynol amdanoch:
• hanes archebu tocynnau (neu waith celf / tocynnau anrheg)
• ffurflenni adborth a holiaduron ar-lein
• holiaduron/ffurflenni adborth wedi argraffu
• manylion a hanes ni yn cysylltu gyda chi ac os ydych yn dewis
• addysg, gweithle a manylion proffesiynol (ar gyfer cyrsiau/sesiynau penodol)
Byddwn yn defnyddio gwybodaeth a ddelir amdanoch yn y ffyrdd canlynol, er mwyn:
• sicrhau y caiff cynnwys o'n gwefan ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch cyfrifiadur/dyfais
• darparu gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau rydych yn gofyn i ni amdanynt neu a allai fod o ddiddordeb i chi yn eich barn ni, os rydych wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion o'r fath
• gofyn ichi am eich sylwadau/adborth drwy ffurf holiadur ar gyfer datblygu a gwella ein gwasanaethau
• deall yn well o anghenion ein cwsmeriaid a thrwy fonitro eich defnydd ar y wefan ac ymateb i ymgyrchoedd e-byst a anfonir
• eich hysbysu am newidiadau i'n gwasanaeth a'ch ymweliadau â'n safle neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch i hwyluso eich ymweliad;
Os nad ydych am i ni ddefnyddio eich data gallwch ddewis diddymu eich tanysgrifiad ar waelod pob e-bost, neu gallwch ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685 222 neu ebostio post@galericaernarfon.com
Gwella dealltwriaeth o’n cynulleidfaoedd a gwella cyfathrebu
Rydym yn defnyddio sawl dull gan gynnwys ymchwil marchnad, dadansoddi proffil er mwyn dysgu a deall mwy am ein cynulleidfaoedd. Gall hyn gynnwys gwybodaeth o’r swyddfa docynnau yn ogystal a defnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn dysgu mwy am ddiddordebau ein cwsmeriaid a sut gallwn annog mwy o ddefnydd o Galeri neu ddatblygu cynlluniau teyrngarwch/aelodaeth.
Mae’r wybodaeth yma hefyd yn ein caniatau i reoli pwy sydd yn derbyn negeseuon o ddiddordeb yn unol a’r diddordebau sydd gan y cwsmer (o hanes archebu tocynnau).
Dewis derbyn / peidio derbyn gwybodaeth marchnata
Os nad ydych am i ni ddefnyddio eich data gallwch ddewis diddymu eich tanysgrifiad ar waelod pob e-bost, neu gallwch ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685 222 neu ebostio post@galericaernarfon.com
Cwcis
Ar gyfer gwella ein gwefan – rydym yn defnyddio cwcis.
Gallwn gael gwybodaeth am eich defnydd o'r rhyngrwyd yn gyffredinol drwy ddefnyddio ffeil gwcis a gaiff ei storio ar eich porwr neu yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur. Maent yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Mae rhai o'r cwcis a ddefnyddiwn yn hanfodol i weithrediad y wefan.
Defnyddir cwcis yn gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon. Mae cwcis yn hanfodol ar gyfer gweithredu ein system docynnau ar-lein (Ticketsolve), ond bydd y cwcis yn difflannu unwaith y byddwch wedi gorffen eich sesiwn. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli'r rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau'r porwr. Gallwn ni ddim bod yn gyfrifol am gwcis ar wefannau allannol megis Facebook, Twitter, Google ayyb.
I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i allaboutcookies.org.
Fe allwn ddefnyddio ‘Google Analytics’ i fonitro perfformiad y wefan. Mae Google Analytics yn cynhyrchu a cyflwyno ystadegau a gwybodaeth bellach drwy gwcis – fydd yn cael eu storio ar gyfrifiaduron y defnyddiwr. Mae posib i ni fel cwmni ddefnyddio adroddiadau amrywiol i fonitro perfformiad a defnydd y wefan – Google fydd yn storio’r wybodaeth yma ac mae eu polisi preifctrwydd ar gael yma :dadansoddiad/wybodaeth yma yn
http://www.google.com/privacypolicy.html.
Rhannu gwybodaeth
Tydi rhannu gwybodaeth bersonol ar-lein ddim wastad yn saff. Mi fyddwn ni yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod data personol yn cael ei storio yn ddiogel a byth yn cael ei rannu.
Fe all Galeri Caernarfon Cyf orfod rhannu gwybodaeth – yn ddibynol ar y gyfraith ac mewn achosion penodol os oes achos cyfreithiol dros wneud hynny.
Addasiadau i’n polisi preifatrwydd
Gall cynnwys y polisi preifatrwydd yma newid wrth i amser symud yn ei flaen. Gofynnwn i chi gadw llygad ar y wefan/dudalen hon am ddiwadderiadau. Fe allwn fod yn ebostio hefyd pawb i nodi unrhyw newid(iadau).
Os oes gennych unrhyw gwestiwn / ymhoaliad penodol - 01286 685 222 neu post@galericaernarfon.com
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod digwyddiadau yn cychwyn yn brydlon/ar amser.
Ni chaniateir mynediad i’r rhai sydd yn cyrraedd yn hwyr dim ond:
1 | Os oes cyfle addas yn ystod y perfformiad
2 | Bod yr arist/cwmni yn caniatau
Gellir gwrthod mynediad heb ad-daliad.
Pwysleisiwn yma bwysigrwydd unai archebu tocynnau cyn y diwrnod neu i gyrraedd Galeri oleiaf 30 munud cyn amser cychwyn digwyddiad.
Mae tocynnau anrheg yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad prynu. Bydd y talebau yn diflannu oddi ar y system docynnau ar y diddiad terfynol a ni fydd posib defnyddio’r tocynnau anrheg wedi hynny.
Gallwn gynnig gostyngiadau mewn sawl achos os yn archebu tocynnau i grwpiau o 10+. I drafod ymhellach:
01286 685 241 | 01286 685 211 | post@galericaernarfon.com
Ni chaniatawn ymddygiad ymosodol tuag at staff neu aelodau o’r gynulleidfa.
Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad. Mae hyn yn cynnwys e-sigaréts.