galeri


Teuluoedd

image

Mae croeso cynnes i deuluoedd yn Galeri…

Digwyddiadau i’r teulu
Rydym yn rhaglennu ffilmiau teuluol pob bore Sadwrn a Sul yn y sinema – ac yn ddibynnol ar y ffilmiau/amser y flwyddyn (gwyliau ysgol), bydd y ddarpariaeth yn fwy ar gyfer teuluoedd.
Rhaglennir gweithdai achlysurol drwy’r flwyddyn a hefyd digwyddiadau/sioeau amrywiol.

Bwyd a diod
Mae gennym fwydlen benodol (bwyd ffres/cartref) ar gyfer plant yn y Café Bar a digon o amrywiaeth o ran byrbrydau/losin/diodydd ar gael cyn mynd i’r sinema (ar gael o’r ciosg tuallan y sinema).

Parcio ger Galeri
Mae maes parcio ar safle Galeri i 16 cerbyd (2 ofod yn benodol ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ac un gofod fwy llydan gyda offer trydanu cerbyd Tesla). Codir pris parcio “arhosiad byr” yn Galeri.
Mae maesydd parcio mwy sydd yn cynnig “arhosiad hir” yn agos i Galeri, gellir gweld map/costau yma (linc I https://galericaernarfon.com/parcio.html

Toiledau/cyfleusterau newid Babanod
Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod ar y 3 llawr.

Cadw’r plant yn brysur
Yn y caffi/bar, rydym yn darparu deunyddiau lliwio i gadw’r plant yn brysur tra bod mam/dad neu nain/taid yn cael sgwrs. Gallwn hefyd ddarparu côd wi-fi am ddim.

Parcio pramiau
Gallwn edrych ar ôl eich pramiau (am ddim) pan yn mynychu digwyddiad yn Galeri.