galeri

Newyddion

04.08.23 SWYDD: RHEOLWR PROSIECT GWELLA CANOL TREF CAERNARFON

Rydym yn chwilio am berson/cwmni/tîm i reoli prosiect newydd “Gwella Canol Tref Caernarfon” rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2024.

Dyma brosiect gwerth £1.2m sydd wedi’i ariannu yn rhannol gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a thrwy Gronfa Trawsnewid Trefi (Llywodraeth Cymru) a gan Galeri Caernarfon Cyf.

Y bwriad gyda’r prosiect yw prynu ac adnewyddu hyd at 4 adeilad yng nghanol tref Caernarfon a’u gosod i denantiaid masnachol a phreswyl.

Gellir lawrlwytho pecyn swydd yma (PDF)

Cyfnod y prosiect: 01.09.23 – 31.12.24
Nifer dyddiau: 110-130 diwrnod
Pecyn ariannol: hyd at £48,000 (yn cynnwys TAW) dros gyfnod y cytundeb. Mae’r pecyn ariannol i gynnwys holl gostau cyflogaeth/treuliau yr unigolyn/tîm.

I ymgeisio, ebostiwch:
- Lythyr cais (yn cynnwys gwybodaeth amdanoch, eich hanes, profiad o reoli a gweinyddu prosiectau)
- Eich costau (manylwch y costau a nifer dyddiau gwaith dros gyfnod y prosiect– gan gynnwys TAW)
- CV (ar gyfer bob person fydd yn rheoli/gweinyddu’r prosiect)
i sylw Steffan Thomas // steffan.thomas@galericaernarfon.com

Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun – 21.08.2023

Os am sgwrs anffurfiol neu am fwy o wybodaeth yn y cyfamser, cysylltwch gyda:

Steffan Thomas - Prif Weithredwr - steffan.thomas@galericaernarfon.com
Gwyn Roberts - Cyfarwyddwr Datblygu - gwyn.roberts@galericaernarfon.com

23.05.23 Rheolwr Prosiect Creadigol CANFAS

Diddordeb yn y celfyddydau ac adfywio?
Yn berson trefnus sy’n gallu cydlynu ac arwain prosiectau?
Mwynhau siarad hefo pobl, ymgysylltu, casglu a rhannu gwybodaeth?

Os felly – dyma swydd ddelfrydol i ti…

Mae gennym gyfle i unigolyn trefnus, creadigol sydd yn gyfathrebwr gwych i arwain a rheoli prosiect creadigol CANFAS yng Nghaernarfon.

Cytundeb gwaith llawrydd sydd ar gael – gyda oleiaf 50 diwrnod o waith rhwng dechrau’r prosiect (Gorffennaf 2023 a diwedd Mawrth 2024).

Bydd deilydd y swydd yn atebol i Gyfarwyddwr Datblygu Galeri ac yn adrodd nol i’r grŵp llywio/rhanddeiliaid y prosiect yn rheolaidd yn ystod y cyfnod.

Cyflog: £250 y diwrnod (cytundeb gweithiwr llawrydd - i’w anfonebu yn fisol)
Cyfnod: Cyfnod datblygu’r prosiect, Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024 (amcangyfrif oleiaf 50 diwrnod yn ystod y cyfnod hwn)
Oriau gwaith: Diwrnod gwaith llawn yn 7.5 awr – mae hyblygrwydd o ran gweithio diwrnod llawn neu ddau ½ diwrnod er engraifft yn ddibynol ar natur y tasgau/gwaith. Mi fydd disgwyl trefnu a mynychu digwyddiadau ymgynghori gyda’r nos ac ar benwythnosau
Lleoliad: Yn Galeri, Caernarfon fydd y swydd wedi’i leoli yn bennaf (bydd hyblygrwydd i allu gweithio o adref hefyd)
Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun – 05.06.2023.

Gellir lawrlwytho pecyn swydd yma (PDF)

Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a chlir yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Fel cyflogwr, rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o gymdeithas er mwyn adlewyrchu’r ddemograffeg leol ac yn ehangach yn fanwl gywir – a thrwy hynny ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

I ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr yn nodi pam eich bod yn addas ar gyfer y swydd i sylw gwyn.roberts@galericaernarfon.com

Os hoffech drafod y dwydd ymhellach, cysylltwch â:

Gwyn Roberts // gwyn.roberts@galericaernarfon.com
Naomi Saunders // naomi.saunders@galericaernarfon.com

31.03.23 DIOLCH Gwyn

Heddiw yw diwrnod olaf Gwyn Roberts fel ein Prif Weithredwr.

Gwyn oedd aelod staff cyntaf y cwmni nol yn 1992 pan sefydlwyd Cwmni Tref Caernarfon yn Stryd y Plas.

31 mlynedd yn ddiweddarach, mae Gwyn wedi arwain, ysbrydoli a datblygu’r cwmni o fod yn gwmni adfywio yn bennaf i bellach fod yn un o prif fentrau cymunedol Cymru a chyflogwr hynod bwysig yn yr ardal. Mae’r cwmni yn parhau i fod wedi gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned ac yn berchen ar dros 20 o adeiladau ofewn tref Caernarfon (yn siopau/swyddfeydd/caffis/salonau/tai a fflatiau), yn gyfrifol am adeilad a rhaglen weithgareddau Galeri yn Doc Victoria a hefyd rheoli safle Cei Llechi sydd yn gartref i wneuthurwyr o bob math.

“Mae ein dyled yn fawr i Gwyn fel bwrdd am ei waith dros y 30 mlynedd diwethaf. Pan sefydlwyd y cwmni nol yn 1992, pwy fyddai wedi dychmygu y gwahaniaeth mae’r cwmni wedi ei wneud yn y dref, gan fod yn gatalydd i adfywio ac ail-danio economi’r dref. Mae llwyddiant a datblygiad y cwmni dros y tri deg mlynedd yn un sydd i’w glodfori, ac yn arwain ar hyn oll dros y blynyddoedd mae Gwyn. Dwi’n siwr byddai cymuned Caernarfon a’r dalgylch hefyd yn dymuno diolch i Gwyn am ei waith a’i ddyfalbarhad. Gall Gwyn edrych nôl dros ei gyfnod wrth y llyw hefo Cwmni Tref Caernarfon ac yna Galeri Caernarfon gyda balchder. Mae ei weledigaeth yn amlwg yng Nghaernarfon heddiw.” Iestyn Harris, Cadeirydd Galeri Caernarfon Cyf

Bydd Gwyn yn parhau i weithio i’r cwmni fel Cyfarwyddwr Datblygu, gyda Steffan Thomas yn cymryd yr awenau fel y Prif Weithredwr newydd.

Ar ran holl aelodau’r staff a’r bwrdd (presennol a blaenorol), ein tenantiaid, cynulleidfaoedd, cwsmeriaid a holl gymuned yr ardal sydd wedi elwa o waith Galeri Caernarfon Cyf – DIOLCH Gwyn.