galeri

Swyddi

Baner gwefan gyda logo a teitl

Swydd Prif Gogydd / Goruchwyliwr Gegin

Mae Galeri ar siwrnau cyffrous - gyda dros 30% yn fwy o docynnau wedi’u gwerthu yn hanner cyntaf 2025 na’r un cyfnod y llynedd. Mae ein poblogrwydd yn cynyddu, a gyda hynny, rhaid sicrhau darpariaeth bwyd a diod o’r radd flaenaf yn ein caffi.

Felly os ydych chi â’r cymwysterau perthnasol i baratoi, coginio a chyflwyno bwyd o safon, a sicrhau fod y gegin yn rhedeg yn esmwyth ac effeithiol, dysgwch fwy am ein swydd Prif Gogydd / Goruchwyliwr Gegin llawn amser, isod.

Swydd Ddisgrifiad
Ffurflen Gais

Cyflwynwch Ffurflen Gais dros ebost i swyddi@galericaernarfon.com cyn 9am, bore dydd Llun y 4ydd o Awst. Mae croeso i chi ddod â copi caled i swyddfa Galeri.

Eisiau darganfod mwy am ein gwaith a diwylliant Galeri? Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram, neu gwnewch gysylltiadau ag aelodau staff Galeri ar LinkedIn.

Baner gwefan gyda logo a teitl

Swydd Cyfarwyddwr Artistig

Mae Galeri yn ganolfan gelfyddydol fywiog yng nghalon tref Caernarfon sydd yn cyfrannu bron i £2.5m y flwyddyn i’r economi leol trwy brosiectau cynaliadwy a chreadigol sydd yn gwireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal.

Rydym yn edrych tua’r dyfodol gyda gweledigaeth glir: i fod yn ganolfan arloesol flaenllaw lle mae popeth yn bosibl drwy feddwl yn greadigol, gweithredu’n gynaliadwy a chydweithio gyda’n gilydd.

Ac mae’r weledigaeth honno eisoes yn dwyn ffrwyth — gyda dros 30% yn fwy o docynnau wedi’u gwerthu yn hanner cyntaf 2025 na’r un cyfnod y llynedd. Mae ein poblogrwydd yn cynyddu, a gyda hynny, rydym yn edrych am arweinydd creadigol gyda gweledigaeth artistig gref i ymuno â'n tîm blaenllaw fel Cyfarwyddwr Artistig.

Dyma rôl allweddol yn ein sefydliad sy’n ganolog i fywyd diwylliannol ac artistig gogledd orllewin Cymru. Fel Cyfarwyddwr Artistig, byddwch yn gyfrifol am lunio ac arwain y weledigaeth greadigol ar draws holl elfennau’r rhaglen – o ddrama a dawns, i gerddoriaeth, ffilm ac arddangosfeydd — gan ymestyn apêl ac enw da’r Cwmni yng Nghymru a thu hwnt, ac adeiladu ar bartneriaethau llwyddiannus ac effeithiol sydd yn rhan o lwyddiant Galeri.

Pecyn Recriwtio
Ffurflen Gais

Cyflwynwch Ffurflen Gais dros ebost i swyddi@galericaernarfon.com cyn 9am, bore dydd Gwener y 15fed o Awst. Mae croeso i chi ddod â copi caled i swyddfa Galeri.

Byddwn yn dewis rhestr fer wythnos 25ain o Awst, gyda chyfweliadau i ddilyn pythefnos cyntaf mis Medi.

Eisiau darganfod mwy am ein gwaith a diwylliant Galeri? Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram, neu gwnewch gysylltiadau ag aelodau staff Galeri ar LinkedIn.


Gwirfoddoli yn Galeri

Os hoffech wirfoddoli/stiwardio, cysylltwch â ni drwy ebostio post@galericaernarfon.com neu drwy ffonio 01286 685 250


Profiad gwaith

Am gyfleoedd profiad gwaith neu os hoffech anfon eich CV ymlaen : post@galericaernarfon.com | 01286 685 250