galeri


Archif Newyddion

Swydd: Rheolwr Cegin/ Prif Gogydd
Mae cyfle yma yn Galeri i arwain a rheoli’r cegin. Dyma gyfle i gogydd talentog sydd hefo llu o syniadau cyffrous, dychymyg byw a sgiliau rheoli cegin i weithio hefo’r Tîm Arlwyo.

O fewn awyrgylch cefnogol a sefydlog, byddwn yn cynnig cyfle i berson egniol a brwdfrydig i gyfrannu syniadau ar gyfer datblygu’r fwydlen bresennol a rheoli cegin Galeri er mwyn cynnig profiad arlwyo arbennig,cyfredol a chyffrous o safon uchel a chyson.

Bydd y person llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaeth Cwsmer.

Dyddiad Cau: 12:00 (hanner dydd). Dydd Gwener, 20.03.20
Cyflog: I’w drafod. Cynnigir cyflog cystadleuol yn ogystal â chynllun pensiwn.
Oriau: Cytundeb gwaith 40 awr yr wythnos (fydd yn cynnwys gweithio ar gyda’r nosau, penwythnosau a rhai Gwyliau banc)

Gellir lawrlwytho:
swydd ddisgrifiad yma (PDF)
ffurflen gais yma (word)

Am wybodaeth pellach a ffurflen gais cysylltwch gyda Sophie Craig, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gofal Cwsmer: 01286 685 250 / sophie.craig@galericaernarfon.com

14.02.20 Ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn Galeri

Oherwydd ymddygiad gwrth-gymdeithasol diweddar gan griwiau - yn anffodus ‘rydym fel cwmni yn cadw'r hawl i atal mynediad i unigolion (dan 18) i adeilad Galeri os:

  • na fydd ganddynt docyn i weld/gymryd rhan mewn digwyddiad;
  • nad ydynt yn dod i Galeri fel cwsmer yn y Café Bar;
  • nad ydynt yn dod i gael gwersi yn yr adeilad.

Daw hyn yn sgil ymddygiad gwrth gymdeithasol tuag at staff a difrod i eiddo Galeri. Er mai lleiafswm sydd yn achosi'r broblem - does gennym ddim dewis yn anffodus.

12.02.20 Difrod troseddol ar safle Cei Llechi

Rhaglen SinemaYn anffodus - mae 'na achos o fandaliaeth wedi bod ar safle Cei Llechi yn ystod nos Lun – 10.02.20.

Mae'r heddlu ar hyn o bryd yn edrych ar CCTV ac yn casglu tystiolaeth fforensig. Os oes gennych unrhyw wybodaeth bellach, plis cysylltwch â ni yn uniongyrchol neu’r heddlu.

Mae datblygu Cei Llechi yn fuddsoddiad sydd am wella’r dref mewn sawl ffordd. Ond tra bod ‘na leiafrif o unigolion yn byhafio fel hyn, mae’n cael effaith ar ein amserlen ac yn ariannol.

Dyma brosiect arloesol rhwng Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri Caernarfon Cyf. Bydd Cei Llechi ar agor i’r cyhoedd yn hwyrach ymlaen yn flwyddyn.

17.01.20 Newid i’r rhaglen: Dancing in the Wings (13.03.20)

Oherwydd rhesymau y tuallan i’n rheolaeth, yn anffodus ni fydd cynhyrchiad Dancing in the Wings gan gwmni Suitcase Theatre yn dod i Galeri 13.03.20.

Byddwn yn cysylltu gyda’r phawb sydd wedi archebu tocynnau i drefnu ad-daliadau.

Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.

08.01.20 Swydd: Cydlynydd Prosiect PICS 2020

I gychwyn cyn gynted â phosib, rydym yn chwilio am berson trefnus a hyderus i gydlynu Gŵyl PICS dros gyfnod o rai misoedd ar sail gweithiwr llawrydd.

Pwrpas PICS yw meithrin ac annog gwneud a gwylio ffilmiau gan blant a phobl ifanc. Fel yr unig ŵyl ffilmiau gwbl Gymraeg neu ddi-iaith rydym yn cynnig cyfle i unigolion a grwpiau greu ffilm trwy gyfrwng y Gymraeg drwy gystadleuaeth, dangosiadau ffilm a thrwy gynnal gweithdai a gweithgareddau cysylltiedig.

Bydd disgwyl i’r person llwyddiannus gydweithio gyda’r adran rhaglennu a marchnata i gydlynu nifer o weithgareddau rhwng Chwefror a Rhagfyr 2020. Bydd rhain yn cynnwys digwyddiadau dan frand PICS yn ystod hanner tymor Chwefror 2020, lansio categoriau cystadleuaeth PICS 2020 a chyd-lynu gweithgareddau amrywiol yn arwain i fyny at ac yn cynnwys wythnos Gŵyl PICS yn ystod hanner tymor mis Hydref 2020. Bydd disgwyl hefyd i’r unigolyn fonitro gweithgareddau a chyfrannu ar adroddiad PICS 2020.

Y ffi am gyflawni’r prosiect: £3,000 (yn cynnwys TAW).

I ymgeisio gyrrwch lythyr a CV cyfredol at nici.beech@galericaernarfon.com erbyn 12:00 (hanner dydd), dydd Llun – 20.01.20.

Ariennir y swydd drwy nawdd gan Ffilm Cymru.

02.01.20 Newid amserlen/lleoliad dangosiadau dydd Sul, 05.01.20

Oherwydd y galw, bydd darllediad byw cyngerdd André Rieu: 70 Years Young dydd Sul, 05.01.20 am 15:00 yn cael ei symud i’r theatr.

Bydd amser dangosiad Star Wars: The Rise of Skywalker [12A] yn newid amser i 16:30 (o 17:30 yn wreiddiol).

20.12.19 Oriau agor dros gyfnod y Nadolig

Mi fydd staff Galeri Caernarfon Cyf yn cael saib bach dros gyfnod y Nadolig.

O’r herwydd, mae newidiadau i’n oriau agor a bydd llai o ddangosiadau ffilm yn ystod y cyfnod. Oriau agor y Swyddfa docynnau, Café Bar a’r cegin fydd:

Dydd Dyddiad Swyddfa Docynnau Café Bar (diodydd) Cegin
Llun 23.12.19 09:00 – 17:30 09:00 – 17:00 09:00 – 16:00
Mawrth 24.12.19 09:00 – 14:00 09:00 – 14:00 09:00 – 13:00
Mercher 25.12.19 Wedi cau Wedi cau Wedi cau
Iau 26.12.19 Wedi cau Wedi cau Wedi cau
Gwener 27.12.19 Wedi cau Wedi cau Wedi cau
Sadwrn 28.12.19 09:00 – 17:00 09:00 – 17:00 09:00 – 16:00
Sul 29.12.19 09:00 – 17:00 09:00 – 17:00 09:00 – 16:00
Llun 30.12.19 09:00 – 15:00 09:00 – 16:00 09:00 – 15:00
Mawrth 31.12.19 09:00 – 15:00 09:00 – 16:00 09:00 – 15:00
Mercher 01.01.20 Wedi cau Wedi cau Wedi cau
Iau 02.01.20 09:00 – 20:00 09:00 – 22:00 09:00 – 20:00

 

Mi fydd posib archebu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar-lein 24 awr y dydd yn ystod y cyfnod, ond cofiwch na fydd posib postio’r tocynnau yn syth oherwydd ein oriau agor.

Ar gyfer tocynnau llawr sglefrio yn ystod y cyfnod – plis archebwch eich tocynnau ar-lein a defnyddiwch yr ebost fel cadarnhad o’r archeb yn y babell ar Y Maes. Gellir archebu y tocynnau yma.

Mi fyddwn yn ceisio ateb negeseuon ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram yn ystod y cyfnod – ond efallai bydd yn cymryd hirach nag arfer i ni ymateb.

Gan ddiolch o waelod calon am eich cefnogaeth yn ystod 2019. Ar ran staff ac aelodau bwrdd Galeri Caernarfon Cyf - Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

17.12.19 Rhaglen dymhorol y Gaeaf bellach ar gael

Mae rhaglen Ionawr – Ebrill 2020 bellach allan.

Gellir casglu copi o Galeri neu o amryw siop/gaffi lleol yn ogystal â lawrlwytho copi digidol yma.

Mae posib hefyd porri ar-lein yma.

Cofiwch gadw llygad ar y wefan am gyhoeddiadau pellach a digwyddiadau ychwanegol, neu os bydd newidiadau i’r digwyddiadau sydd wedi’u argraffu yn y rhaglen. Cyhoeddir holl ddangosiadau ffilm yn y sinema ar y wefan.

12.12.19 Galeri yn cynrychioli Cymru yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol Prydain 2019

Roeddem yn hynod o falch bod ar restr fer ym mhrif categori gwobrau Mentrau Cymdeithasol Prydain 2019.

Fel menter gymdeithasol a sefydlwyd yn 1992, mae’r cwmni wedi datblygu a thyfu o brynu ac adfer eiddo gwag yn y dref i bellach gael dros 20 o eiddo yn y dref yn ogystal â rhedeg a rheoli Galeri.

Ers agor Galeri yn 2005, mae natur y cwmni wedi gweld newid sylweddol yn y ddrapraieth/gwasanaethau rydym yn gynnig, y swyddi wedi creu a chynnal yn ogystal a’r effaith bositif ar yr economi a’r gadwyn cyflenwi yn lleol. Mae agor y ddwy sgrîn sinema a’r Safle Creu (ym mis Medi 2018) wedi ein galluogi i gynnig mwy o weithgareddau – sydd erbyn hyn yn gweld dros 250,000 o bobl yn defnyddio’r adnoddau pob blwyddyn.

Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol, bydd prosiect Cei Llechi yn agor Haf 2020. Dyma enghraifft arall o’r cwmni yn cydweithio, y tro hwn gyda Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon i adfywio’r ardal sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer. Bydd y safle ar ei newydd wedd yn gweld 19 o unedau creu/manwerthu amrywiol yn agor, yn ogystal a 3 llety gwyliau (hunan arlwyo), ystafell gyfarfod ac ystafell fydd yn cyflwyno hanes a threftadaeth pwysig Cei Llechi yng nghyd-destun Caernarfon, Cymru a’r byd.

Roedd cael cydnabyddiaeth am ein gwaith a chael cynrychioli Cymru yn fraint anhygoel. Diolch i’n holl gwsmeriaid, cefnogwyr, cyflenwyr, aelodau staff a bwrdd am gyfrannu tuag at lwyddiant y cwmni.


04.11.19 Swydd: Cydlynydd Rhaglennu

Rydym yn chwilio am berson trefnus a chreadigol i gydlynu‘r gweithgareddau sydd yn ffurfio ein rhaglen artistig amrywiol.

Cyflog: £18,600 - £21,090
Oriau: 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd) – dydd Llun, 25.11.19
Cyfweliadau: Yn ystod wythnos 02.12.19
I ddechrau: Cyn gynted â phosib

Gellir lawrlwytho y swydd ddisgrifiad yma
Gellir lawrlwytho’r Ffurflen Gais yma

Os oes angen gwybodaeth pellach neu sgwrs anffurfiol:
Nici Beech: 01286 685 250 | nici.beech@galericaernarfon.com

06.09.19 Swyddi achlysurol ar gael (Café Bar)

Mae gennym swyddi achlysurol ar gael yn y Café Bar.

Gwaith achlysurol yn unol â’r angen sydd ar gael – sydd yn bennaf gyda’r nos, penwythnosau a gwyliau’r ysgol.

Canllaw oed 18+ yn ddelfrydol. Rydym yn hapus derbyn CV hefyd gan unigolion sydd dros 16.

Os hoffech gael eich ystyried, ebostiwch eich CV i post@galericaernarfon.com


28.08.19 Newid dyddiad Clwb Comedi mis Hydref

Mae dyddiad y noson gomedi mis Hydref wedi cael ei newid o’r 9fed i’r 2il o Hydref.

Mae tocynnau dal ar gael i weld/mwynhau noson o gomedi yng nghwmni:
MC: Danny McLoughlin
Jessica Fostekew
Scott Bennett

Tocynnau yn £10 ac ar gael ar-lein neu drwy ffonio 01286 685 222 (neu o Galeri mewn person).

13.08.19 Rhaglen Medi-Rhagfyr 2019

Mae’r rhaglen dymhorol ar gyfer cyfnod Medi-Rhagfyr 2019 bellach allan.

Gellir casglu copi o Galeri, o siopau a chaffis ac ati’r ardal yn ogystal a phori drwy’r rhaglen ar-lein drwy glicio yma.

Mi fydd y rhaglen sinema yn cael ei ddiweddaru a’i ychwanegu ar-lein yn wythnosol, ac mi fydd digwyddiadau ychwanegol i’w cyhoeddi hefyd yn ystod y cyfnod.

Mae cyngerdd Meic Stevens a’r Band (28.09.19) wedi cael ei ganslo. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Awgrymwn eich bod yn cadw llygad ar ein gwefan ac yn dilyn ein gwefannau cymdeithasol – Facebook a Twitter.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld – gan ddiolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth fel arfer. Gellir archebu tocynnau mewn person o Galeri, drwy ffonio 01286 685 222 neu ar-lein (24 awr y dydd).

05.08.19 Nosweithiau Machlud yn Galeri

Mae nosweithiau Machlud @ Galeri yn dychwelyd am y mis.

Pob nos Wener yn ystod mis Awst (rhwng 17:30 – 19:30) bydd cerddoriaeth gan rai o artistiaid/DJs amrywiol i ddechrau’r penwythnos mewn steil.

Dyma gyfle i fwynhau adloniant am ddim yn ardal y Café Bar (gyda rhai sesiynau tuallan os bydd tywydd yn caniatau ).

Yn perfformio…
09.08.19 - Tacla
16.08.19 - Sera
23.08.19 - Endaf + Aaron Warren
30.08.19 - Achlysurol
06.09.19 - Thallo

Croeso cynnes i deuluoedd! I archebu bwrdd: 01286 685 200

Cefnogir y nosweithiau gyda diolch i Gwyn a Mary Owen.

05.07.19 Galw am diwtoriaid creadigol

Rydym yn chwilio am unigolion arbennig i arwain gweithdaith theatr a cherddoriaeth (prosiect Sbarc) yn Galeri. Mae cyfle i ambell diwtor gychwyn ym mis Medi, ond hoffem dderbyn ceisiadau gan unrhyw berson a fyddai gyda diddordeb mewn tiwtora yn y dyfodol.

Mae Sbarc yn brosiect sydd yn cynnig cyfleon yn y celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc.

Cynnigir cytundeb gwaith/ariannol fesul tymor.

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch CV a llythyr (yn esbonio eich maes arbenigol a beth allwch gynnig i’r prosiect) erbyn 15.07.19 i sbarc@galericaernarfon.com

13.06.19 Arddangosfa Agored 2019 : Ar agor i geisiadau

Rydym bellach yn derbyn ceisiadau gan artistiaid ar gyfer Arddangosfa Agored flynyddol Galeri.

Derbynnir ceisiadau gan unrhhyw un – boed yn artist proffesiynol, yn fyfyriwr neu yn berson sy’n creu celf fel diddordeb. Does dim cyfyngiad oed na daearyddol a gellir cyflwyno gwaith ar unrhyw ffurf celfyddydol.

Gwobrau ariannol gwerth £1,650 ar gael a cyfle i gael eich gwaith wedi’i arddangos yn Galeri.

Cost ymgeisio: £10 (gellir cyflwyno hyd at 6 darn o waith)
Dyddiad cau ceisiadau: 16.08.19 (16:00)
Dyddiad yr arddangosfa: 01.11.19 – 13.12.19

Noddir gan Gwyn a Mary Owen.

11.04.19 Swydd: Rheolwr Cyllid (cyfnod mamolaeth)

Mae Galeri Caernarfon Cyf yn chwilio am Reolwr Cyllid (cyfnod mamolaeth) i ddechrau diwedd mis Mehefin.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r adran gyllid i sicrhau bod holl brosiectau’r cwmni yn rhedeg yn llwyddiannus ac effeithiol.

Oriau: 37 awr yr wythnos (Llun – Gwener) – ond gyda’r hyblygrwydd i addasu neu weithio oriau ychwanegl pan fo’r angen
Cyflog: £18,000 - £22,000 (yn ddibynol ar brofiad)
I gychwyn: Diwedd Mehefin

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd) dydd Gwener, 07.06.19.
Cyfweliadau yn ystod wythos 21.06.19.

Gellir lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad llawn yma
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma

Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:
Sonia Pritchard (Cyfarwyddwr Busnes a Chyllid) // 01286 685 204

20.03.19 Rhagrybudd: Café Bar ar gau i’r cyhoedd - 13.04.19

Oherwydd digwyddiad preifat, ni fydd y Café Bar ar agor i’r cyhoedd ddydd Sadwrn, 13.04.19.
Bydd y rhaglen sinema yn parhau i fod yn weithredol, a’r ciosg newydd yng nghyntedd y sinema yn gwerthu diodydd oer/poeth a chymysgedd o ddanteithion ar gyfer y sinema.

14.03.19 Galwad am geisiadau: Safle Celf 2021

Safle Celf 2021Mae panel dethol Safle Celf Galeri yn cyfarfod yn fuan iawn i drafod a dethol rhaglen arddangosfeydd 2021.

Os am gyflwyno cysyniad – bydd angen ebostio:
- Datganiad artist (dim mwy nag un ochr A4) a chysyniad am yr arddangosfa (dim mwy nag un ochr A4)
- Hyd at 6 delwedd digidol/linc ffilm (awgrymwn bod linc trosglwyddo/lawrlwytho lluniau oherwydd cyfyngiadau derbyn ffeiliau mawr)

Am fwy o fanylion - cliciwch yma

I sylw: rebecca.hardy-griffith@galericaernarfon.com erbyn 23:59 nos Sul, 31.03.19.

08.03.19 Swydd ar gael: Aelod Tîm Gofal Cwsmer

Mae cyfle i unigolyn brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Gofal Cwsmer yma’n Galeri.

Dyma swydd sydd yn gyfuniad o waith yn swyddfa docynnau yn delio gyda ymholiadau, blaen ty yn rheoli digwyddiadau yn ogystal â dyletswyddau yn y café bar – gyda’r holl gyfrifoldebau i sicrhau bod gwasanaeth cwsmer a profiad ymwelwyr o safon arbennig drwy’r amser.

Closing date: Mae’r hysbyseb ar agor tan y bydd y swydd yn cael ei lenwi (awgrymwn eich bod yn ymgeisio cyn gynted a phosib)
Cyflog: £16,970 - £17,920
Oriau: 40 awr yr wythnos (yn unol a’r rota – sydd yn cynnwys penwythnosau a rhai gwyliau banc)
I ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch eich CV

Gellir lawrlwytho y swydd ddisgrifiad yma
Gellir lawrlwytho’r Ffurflen Gais yma

Os oes angen gwybodaeth pellach neu sgwrs anffurfiol:
Rhian Evans 01286 685 250 rhian.evans@galericaernarfon.com
Iona Davies 01286 685 218 iona.davies@galericaernarfon.com

14.12.18 Oriau Agor Galeri (Nadolig / Flwyddyn Newydd)

I sicrhau bod staff Galeri yn cael amser gyda’u teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – mae oriau agor Galeri wedi addasu ar gyfer y cyfnod.

Dyma’r oriau agor:

Dydd Dyddiad Oriau agor yr adeilad Oriau agor y Café Bar
Sul 23.12.18 09:00 – 19:30 09:15 – 17:00
Llun 24.12.18 07:30 – 16:00 09:00 – 14:30 (Cegin yn cau 14:00)
Mawrth 25.12.18 AR GAU AR GAU
Mercher 26.12.18 AR GAU AR GAU
Iau 27.12.18 AR GAU AR GAU
Gwener 28.12.18 09:00 – 19:15 09:15 – 17:00
Sadwrn 29.12.18 09:00 – 19:15 09:15 – 17:00
Sul 30.12.18 09:00 – 19:15 09:15 – 17:00
Llun 31.12.18 09:00 – 15:30 09:00 – 14:30 (Cegin yn cau 14:00)
Mawrth 01.01.19 AR GAU AR GAU
Mercher 02.01.19 07:30 – 22:30 09:00 – 22:00 (Cegin yn cau 20:00)

Mi fydd posib archebu tocynnau ar-lein drwy’r dydd, pob dydd fel arfer (mae oedi yn debygol os yn talu am bostio tocynnau).

Ar ran holl staff ac aelodau bwrdd Galeri Caernarfon Cyf – DIOLCH am eich cefnogaeth unwaith eto yn ystod 2018. Mae hi wedi bod yn flwyddyn hanesyddol wrth agor y sinema newydd, y flwyddyn orau o ran gwerthiant tocynnau ac hefyd gweld cannoedd o wynebau newydd yn defnyddio Galeri am y tro cyntaf.

Nadolig Llawen, Blwyddyn Newydd Dda ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu eto yn Galeri yn ystod 2019.

17.10.18 Swydd newydd: Derbynnydd/Cynorthwy-ydd Swyddfa Docynnau ar benwythnosau

Oherwydd prysurdeb a cynnydd sylweddol yn nifer ymwelwyr â Galeri, rydym yn chwilio am berson i ymuno â’r tîm fel derbynnydd i weithio yn bennaf ar benwythnosau.

Gellir lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad yma a’r ffurflen gais yma.

Dyddiad cau: Gwener, 16.11.18 am 12:00 (hanner dydd)
Cyfweliadau: Dyddiad i’w gadarnhau
Cyflog: Rhagori ar graddfa isafswm cyflog
Oriau: 12 awr yr wythnos i’w gweithio yn bennaf ar benwythnosau (Sadwrn – Sul) gyda’r hyblygrwydd i allu gweithio gyda’r nosau pan fo’r angen/ cyflenwi ar achlysuron salwch/gwyliau
I ymgeisio: Bydd angen cwblhau ffurflen gais a copi o’ch CV

Os oes angen gwybodaeth pellach neu sgwrs anffurfiol:
Glenys Jones 01286 685 222 glenys.jones@galericaernarfon.com
Iona Davies 01286 685 218 iona.davies@galericaernarfon.com

16.10.18 Swydd: Aelod Tîm Gofal Cwsmer

SwyddOherwydd prysurdeb ychwanegol yn Galeri ers agor y sinema newydd, mae cyfle i unigolyn ymuno â’n tîm gofal cwsmer.

Aelodau’r tîm yma sydd yn gyfrifol am sicrhau bod agweddau swyddfa docynnau, rheoli digwyddiadau a systemau y café-bar yn rhedeg yn esmwyth.

Dyddiad cau: Does dim dyddiad cau wedi’i osod. Awgrymwn eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted a phosib.
Cyfweliadau: Dyddiad i’w gadarnhau
Cyflog: £16,970-£17,920
Oriau: 40 awr yr wythnos [ROTA Llun – Sul fydd yn cynnwys oriau anghymdeithasol, penwythnosau a Gwyliau Banc]

Gellir lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad yma.

I ymgeisio am y swydd, bydd angen cwblhau’r ffurflen gais yma yn ogystal a chyflwyno eich CV.

Am sgwrs bellach, cysylltwch â:
Iona Davies | 01286 685 218 | iona.davies@galericaernarfon.com
Rhian Evans | 01286 685 200 | rhian.evans@galericaernarfon.com

09.10.18 Cadarnhau ffilmiau’r wythnosau nesaf…

ryan-goslingErs agor y sinema yn swyddogol, rydym yn barod wedi croesawu dros 2,500 person (sef dros 10% o’n targed mewn blwyddyn) mewn 3 wythnos a hanner. Mae cael y gefnogaeth yma yn amhrisiadwy ac yn profi yr angen am sinema pwrpasol yma yng Nghaernarfon.

Mae’r rhaglen hyd at nos Iau, 25 Hydref bellach wedi cael ei gadarnhau. Gellir lawrlwytho ar ffurf PDF yma neu am y rhestr llawn sinema, mae tudalen bwrpasol yn cynnwys holl ffilmiau, dangosiadau a tocynnau ar gael drwy ymweld â galericaernarfon.com/sinema.

Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer ffilmiau i sicrhau eich bod yn cael y seddi yr ydych eisiau (gan bod cwsmeriaid bellach yn archebu sedd benodol pan yn archebu tocyn) a hefyd ar gyfer arbed arian (gan bod pris tocynnau yn codi ar y diwrnod).

Yn anffodus, rydym wedi gorfod troi sawl cwsmer iffwrdd yn ystod sydd heb archebu ymlaen llaw – felly dyma’r unig gyngor allwn ei gynnig.

Gofynnwn hefyd i unrhyw berson sydd yn dod i wylio ffilm gyda tystysgrif o 15 / 18 ddod a tystiolaeth/prawf oed (boed yn drwydded yrru, passport, cerdyn Validate UK neu gopi o dystysgrif geni). Nid Galeri sydd yn gosod rheolau oed, dyma’r gyfraith ac felly ni fyddwn yn caniatau neb sydd heb brawf i wylio ffilm 15 na 18. Gyda ffilmiau sydd a tystysgrif 12A – mae’n rhaid cael oedolyn gyda unrhyw blentyn llai na 12 mlwydd oed. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y BBFC.

I archebu tocynnau, gellir:
- Ffonio 01286 685 222
- Archebu ar-lein ar galericaernarfon.com/sinema
- Galw fewn i Galeri

Os oes posib casglu eich tocynnau oleiaf 10 munud cyn amser dangosiad y ffilm (nodwch bod y ffilm yn dechrau ar yr amser a nodir – gyda hysbysebion yn dangos ychydig ynghynt).

21.09.18 Agor estyniad Galeri yn swyddogol

Rhys Ifans a Gwyn RobertsAr ddydd Gwener, Medi 21ain – cafodd estyniad newydd Galeri i agor yn swyddogol gan yr actor Rhys Ifans.

Braint oedd ei gael yma i gefnogi’r achlysur yn ogystal a chynrychiolaeth o ariannwyr y prosiect.

Holl bwrpas agor y sinemau newydd yma yn Galeri ydi i gynnig rhaglen lawn o’r ffilmiau diweddaraf yma yng Nghaernarfon. Mae’n cynnig adnodd pwysig yma yn Galeri ar gyfer yr holl gymuned.

Mae posib gweld y ffilmiau sydd yma ac archebu ar-lein ar y wefan hon (ac mae tocynnau yn rhatach ymlaen llaw – felly awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw).

Edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn y sinema newydd ac am eich adborth.

11.09.18 Rhaglen sinema (14.09.18 – 04.10.18)

Rhaglen SinemaRydym yn falch o gyhoeddi’r rhaglen sinema ar gyfer cyfnod rhwng 14 Medi a 4 Hydref.

Prisiau tocynnau:
£6 / £5 / £3.50 (aelodau PRIMA) ymlaen llaw
£7.50 / £6.50 / £4.50 (aelodau PRIMA) ar y diwrnod
*Mae’r pris tocyn yn cynnwys ffi archebu o 50c y tocyn

Amser ffilm:
Mi fydd pob ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a ddangosir. Bydd y drysau yn agor oddeutu 30 munud cyn y ffilm a’r hysbysebion/trêls yn dangos am 15 munud cyn y ffilm.

Dewis eich sedd:
Fel mwyafrif y sinemâu – mi fydd cwsmeriaid yn dewis sedd(i) ar gyfer dangosiadau ffilm.

Awgrymwn felly eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw i sicrhau eich sedd(i) ac am docynnau rhatach. Gofynnwn hefyd yn garedig i gwsmeriaid gyrraedd Galeri mewn digon o amser gan ystyried amser parcio, gasglu tocynnau a cymryd eich seddi mewn da bryd.

Os am fwyta yn ein Café Bar cyn ffilm, y rhif i ffonioar gyfer archebu bwrdd yw: 01286 685 200.

14.08.18 Rhaglen Newydd

Lawrlwythwch ein rhaglen newydd sydd yn cynnwys digwyddiadau Medi - Rhagfyr 2018 yma

14.08.18 Ymgeisio ar gyfer Arddangosfa AGORED

Ddyddiad Cau Ceisiadau - 17.08.18, 4yp
Dim Ffi Cais
noddir gan Gwyn & Mary Owen

Mae Arddangosfa AGORED Galeri yn gyfle i unrhyw artist gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa a gynhelir yn Safle Celf Galeri rhwng 9 Tachwedd a 14 Rhagfyr 2018.

Gall yr artist for yn fyfyriwr/fyfyrwraig, yn broffesiynol neu yn artistiaid heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn celf. Does dim cyfyngiad o ran cyfrwng waith artist (film, ffotograffiau, portreadau, crefft, gwydr ac ati), na chwaith cyfyngiad oed na lleoliad daearyddol artist/ymgeisydd with ymgeisio.

Fedrwch lawrlwytho'r ffurflen gais yma

25.06.18 Prentis Technegol (Goleuo)

Mae gennym gynllun prentisiaeth newydd – technegydd goleuo.

Am fwy o wybodaeth – cliciwch yma

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd), Gwener, 31.08.18

29.05.18 Unedau/Swyddfeydd ar osod

Mae gan y cwmni uned gwaith/swyddfa ar gael i’w rhentu:
Galeri | Uned 5 | 17m2 | £4,400 +TAW y flwyddyn | Taflen wybodaeth ar gael yma

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Neil Davies:
01286 685 205 | 01286 685 206 | neil.davies@galericaernarfon.com

29.05.18 Cyfle i ymuno â’r tîm

Aelod: Tîm Gofal Cwsmer

Eisiau bod yn rhan ganolog o’r ffordd mae Galeri yn cael ei redeg?
Eisiau gwneud gwahaniaeth a sicrhau bod pob un cwsmer/ymwelydd yn cael y gwasanaeth gorau posib?
Rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Gofal Cwsmer. Mae’r cyfrifoldebau yn amrywio o ddyletswyddau rheoli cynulleidfaoedd ar ddigwyddiadau, gwerthu a delio gyda cwsmeriaid yn y swyddfa docynnau a gwaith gweini/bar.

Os oes gennych y diddordeb, yr egni a’r agwedd iawn i sichrau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei gynnig i’n cwsmeriaid, hoffem glywed ganddoch chi!

Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos)
Cyflog: £16,970 - £17,920
Dyddiad cau: 12:00 (hanner dydd), dydd Gwener, 22.06.18

I ymgeisio am y swydd, bydd angen cyflwyno ffurflen gais a CV.

Am becyn gwybodaeth – cliciwch yma
Am ffurflen gais – cliciwch yma

Os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol:
Rhian Evans : 01286 685 250
Iona Davies : 01286 685 218

11.04.18 Cau llwybr/pafin (Ffordd Balaclava) dros dro

llwybrOherwydd gwaith adeiladu, ac am resymau iechyd a diogelwch – bydd pafin/llwybr ar ochr Ffordd Balaclava o Galeri ar gau dros dro.

Mae’n rhaid cau y llwybr er mwyn gosod waliau allanol yr estyniad (sinema newydd) am gyfnod o wythnosau. Mi fydd, ac mae croeso i’r cyhoedd gerdded trwy adeilad Galeri os yn dymuno mynd i/o safle Doc Fictoria.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

01.03.18 Ail-drefnu digwyddiadau oherwydd y tywydd garw

Yn anffodus, gyda rhagolygon tywydd dydd Gwener, mae’n amhosib gwarantu bydd Stifyn Parri, Athena na Trystan Llyr Griffiths yn gallu teithio i Gaernarfon.

O’r herwydd, rydym wedi penderfynu ail-drefnu ar gyfer dyddiadau newydd:

Athena a Trystan Llyr Griffiths
Dyddiad newydd : Mawrth, 08.05.18 am 19:30

Stifyn Parri: Cau dy Geg
Dyddiad newydd : Gwener, 28.09.18 am 19:30

Bydd stadd y Swyddfa Docynnau yn cysylltu gyda pawb sydd wedi archebu tocynnau i drefnu trosglwyddo’r tocynnau neu ad-dalu.

Mae digwyddiadau heddiw – TONIC a Lleuwen Steffan yn parhau fel mae hi’n sefyll. Cadwch lygad allan ar ein tudalennau Facebook a Twitter am unrhyw ddiweddariadau.

01.12.17 Rhaglen Ionawr – Ebrill 2018

rhaglen ion ebrillRydym yn falch o gyhoeddi ein rhaglen ar gyfer misoedd Ionawr – Ebrill 2018.

Fel pob tro – cofiwch gadw eich llygaid allan am unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau i’r rhestr ddigwyddiadau.

Byddwn wastad yn cyhoeddi ar y wefan ac ar ein tudalennau Facebook a Twitter (cofiwch ddilyn!)

Mae posib lawrlwytho’r rhaglen yn electronig drwy glicio yma

16.11.17 Prosiectau Celf Portffolio a Codi’r Bar 2018

HOLLTIAstudio celf/dylunio yn yr ysgol/coleg?

Mae Galeri yn cydweithio gydag Oriel Môn i gyflwyno dau gynllun cyffrous (Portffolio a Codi’r Bar) i artistiaid dawnus sydd yn astudio celf/dylunio ar lefel:
TGAU / Lefel A / cwrs sylfaen a mynediad
sydd yn byw yng Ngwynedd a Môn.

Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio am le, lawrlwythwch y ffurflen yma

Bydd angen cyflwyno eich ffurflen gais erbyn 08.12.17.

Am sgwrs bellach am y prosiectau: 01286 685 208

16.10.17 Gohirio gwersi heno : Sbarc a Dawns i Bawb

Oherwydd rhagolygon tywydd diwedd y prynhawn/heno, ni fydd gwersi arferol Sbarc na Dawns i Bawb yn cael eu cynnal heno.

I gael y diweddaraf am wersi Canolfan Gerdd William Mathias : 01286 685 230

03.10.17 Seddi balconi ar gael i HOLLTI

HOLLTIMae 50 o docynnau balconi yn mynd ar werth ar gyfer perfformiadau nos Iau a Gwener o Hollti gan Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y tocynnau (£12 - £10) ar werth o 10:00, fore Mercher (04.10.17) ymlaen – ac ar gael drwy’r swyddfa docynnau yn unig - 01286 685 222 neu drwy ddod i Galeri.

Yn anffodus – ni fydd modd defnyddio ap Sibrwd yn y balconi.


20.09.17 Addasiadau i’r rhaglen sinema: Hydref – Rhagfyr

Mae newidiadau ac ychwanegiadau i’n rhaglen sinema yn ystod misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr:

30.10.17 (10:00) | 31.10.17 (10:30) | 01.11.17 (11:00) > THE JUNGLE BUNCH [U]
Dangosiadau yn lle ‘Animal Crackers’ gan bod dyddiad rhyddhau’r ffilm yma wedi newid

30.10.17 (14:00) | 31.10.17 (14:00) > GOODBYE CHRISTOPHER ROBIN [PG]
Dangosiad yn lle ‘The Little Vampire’ gan bod dyddiad rhyddhau’r ffilm yma wedi newid

10.11.17 (19:30) > THE LURE [12A]
Ffilm ychwanegol fel rhan o brosiect ‘Off y Grid’

13.12.17 (14:00, 19:30) > THE DEATH OF STALIN [15]
Dangosiad yn lle ‘All Saints’ gan bod dyddiad rhyddhau’r ffilm yma wedi newid

Tocynnau ar gyfer yr holl ffilmiau ar gael o’r swyddfa docynnau neu ar-lein.

20.09.17 Enillwyr Gwobrau’r Noddwyr – Agored 2017

Enillwyr Gwobrau’r Noddwyr – Agored 2017Cynhaliwyd agoriad swyddogol ein 6ed Arddangosfa Agored ddydd Sul, 17 Medi.

Ers sefydlu’r arddangosfa flynyddol arbennig hon, mae’r nifer o artistiaid sydd yn ymgeisio a’r safon wedi codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r arddangosfa yn hynod bwysig nid yn unig yng nghalendr gweithgareddau Galeri, ond hefyd ar draws y sector celf weledol yng ngogledd Cymru.

Rydym yn hynod falch o dderbyn nawdd a chefnogaeth Gwyn a Mary Owen sydd yn ein galluogi i barhau i gynnal yr arddangosfa flynyddol unigryw hon. Ymgeisiodd 85 artist eleni, artistaid o Gymru a thu hwnt ac mae 24 wedi’u dethol gan y panel dethol.

Fe aeth gwobrau’r noddwyr, Gwyn a Mary Owen i:
1af (£300) : Simone Williams am ei gwaith ‘Anti-Consumerism Eggs’
2il (£200) : Geraint Hughes am ei waith ‘Beneath’
3ydd (£100) : Jess Bugler am ei gwaith ‘Trap II’

Mae’r bleidlais gyhoeddus ar gyfer gwobr Dewis y Bob lar agor tan 14:00, dydd Gwener, 27 Hydref. Cyhoeddir yr enillydd ar dudalennau Facebook a Twitter Galeri am 18:00.

12.09.17 Gyrfa yn Galeri: Aelod Tîm Gofal Cwsmer

Rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Gofal Cwsmer yma yn Galeri.

Mae’r swydd yn ganolog i’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill gyda sinema 2 sgrin newydd sbon i agor yn 2018. Bydd yr aelod newydd yn ymuno a’r tîm sydd yn gyfrifol am sicrhau gofal cwsmer o’r safon gorau posib.

Cyflog: £16,640
Oriau: 40 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 15:00, dydd Llun, 25.09.17

Swydd ddisgrifiad ar gael yma
Ffurflen gais ar gael yma

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Am sgwrs bellach:
Jonathan Evans | 01286 685 200 | jonathan.evans@galericaernarfon.com

30.08.17 Bws gwennol ar gyfer HOLLTI (05.10.17)

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri yn falch iawn o gyhoeddi y bydd bws gwennol yn rhedeg o Ynys Môn i Galeri, Caernarfon ar gyfer noson agoriadol taith Hollti – nos Iau, 5ed o Hydref.

I sicrhau eich sedd ar y bws (cyntaf i’r felin) – ffoniwch 01286 685 222. Mae’r bws yn rhad ac am ddim ar yr amod eich bod wedi archebu tocyn ymlaen llaw.

Tocynnau [£12 - £10] ar gael o Galeri ar y rhif uchod neu ar galericaernarfon.com

Amserlen y bws:
18:15 | Bws yn gadael Ysgol Bodedern (bydd angen bod yn yr ysgol 18:00 – gellir parcio ar dir yr ysgol)
18:30 | Bws yn casglu teithwyr o’r Swyddfa Bost, Llangefni (bydd angen teithwyr fod yno erbyn 18:20)
18:40 | Bws yn casglu teithwyr o safle parcio a theithio, Llanfairpwll (bydd angen teithwyr fod yno erbyn 18:30)
*noder bydd y bws yn gadael yn brydlon a ni fydd yn gallu aros am gwsmeriaid sydd yn hwyr.

Cynhelir sgwrs cyn-sioe yn y bar am 19:00 yng nghwmni criw creadigol Hollti dan arweiniad Catrin Jones Hughes.

Drama i gychwyn yn brydlon am 19:30 gyda’r bws yn gadael Galeri yn ôl i Fôn oddeutu 21:15.

Cofiwch bod mynediad i fwynhau’r ddrama ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd. Lawrlwythwch yr ap (am ddim) ar eich ffonau symudol/tabled ymlaen llaw.

#Hollti

22.08.17 Dangosiadau ffilm ychwanegol

Oherwydd y galw, rydym am fod yn dangos 2 ffilm yn ychwanegol i’r hyn sydd wedi cael ei hysbysebu. Y dangosiadau yw:

DUNKIRK [12A]
Mawrth, 29.08.17 am 19:00.
£5.50 - £4.50 ymlaen llaw | £7 - £6 ar y diwrnod

DESPICABLE ME 3 [U]
Gwener, 01.09.17 am 15:00.
£3 y tocyn (awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw)

Tocynnau ar gael ar-lein, o’r Swyddfa Docynnau yn Galeri neu drwy ffonio 01286 685 222.

03.08.17 Rhaglen Medi – Rhagfyr 2017

Mae rhaglenni newydd tymor Medi – Rhagfyr ar fin cyrraedd Galeri.

Os ydych yn ymweld, cofiwch godi eich copi a bydd posib hefyd ei gasglu o Gaffi’t Theatrau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol o ddydd Llun (7.8.17) ymlaen.

Mae’n debygol bydd mwy o ddigwyddiadau i’w cyhoeddi.

I lawrlwytho copi electronig i’ch dyfais, cliciwch yma

01.08.17 Newid i oriau agor 3.8.17

Yn rhan o ddatblygiad Galeri 2 bydd Galeri yn cau yn brydlon am 9yh ar nos Iau y 3ydd o Awst er mwyn i waith hanfodol cael ei gyflawni. Bydd y bar felly yn cau am 8.30yh.
Bydd oriau agor arferol o Ddydd Gwener y 4ydd o Awst ymlaen.
Diolch am eich cydweithrediad.

26.06.17 Cadarnhau dyddiad: Marchnad Nadolig Galeri 2017

imageBydd ein Marchnad Nadolig flynyddol yn cael ei chynnal ar ddydd Sul, 19.11.17 rhwng 10:00 a 16:00.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin, gellir lawrlwytho ffurflen gais yma

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd), dydd Llun, 04.09.17
Cost stondin: £36 (yn cynnwys TAW)

Am fwy o wybodaeth:
01286 685 250 | post@galericaernarfon.com

19.06.17 Penodi Nici Beech yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri

Mae’n bleser gan Galeri Caernarfon Cyf gyhoeddi mai Nici Beech sydd wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd y ganolfan.

Yn uwch-gynhyrchydd teledu sydd wedi bod yn un o gomisiynwyr S4C, mae Nici Beech hefyd yn berson gweithgar iawn yn ardal Caernarfon fel un o drefnwyr selog Noson 4a6 ers 2004, Gŵyl Fwyd Caernarfon ac yn un o sefydlwyr Gŵyl Arall a ffurfwyd yn 2008.

Yn ôl Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon Cyf:
“Mae’n bleser gennym benodi Nici Beech fel Cyfarwyddwr Artistig newydd Galeri Caernarfon Cyf. Mae gan Nici y weledigaeth sydd yn cydfynd gyda’r cyfnod cyffrous sydd o’n blaen yma’n Galeri – gyda’r gwaith adeiladu sinema 2 sgrin pwrpasol wrthi’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae ei phrofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol a’i chyfraniad gwirfoddol i sefydlu a threfnu digwyddiadau fel Noson 4a6, Gŵyl Arall a Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ei gwneud hi’r person perffaith ar gyfer datblygu rhaglen adloniant y cwmni.”

Bydd Nici yn dechrau ar ei swydd ym mis Gorffennaf.

23.03.17 Gwaith adeiladu 2 sgrin sinema newydd Galeri i ddechrau wythnos nesaf

imageMi fydd y gwaith o adeiladu estyniad newydd sbon Galeri – sydd yn cynnwys 2 sgrin sinema pwrpasol yn dechrau ddydd Llun, 27 Mawrth.

Mae’r buddsoddiad gwerth bron i £4m yn golygu mai Galeri, Caernarfon fydd unig sinema aml-sgrin pwrpasol Gwynedd a Môn. Bydd y rhaglen sinema newydd yn cynnwys dangos y ffilmiau diweddaraf ar ddyddiad rhyddhau gan hefyd ryddhau’r prif theatr 394 sedd ar gyfer datblygu’r rhaglen ddigwyddiadau byw a’r busnes llogi/cynadleddau.

Pensaer gwobrwyedig adeilad gwreiddiol Galeri, Richard Murphy sydd yn gyfrifol am y dyluniad a’r cwmni adeiladu o Lysfaen, RL Davies fydd yn adeiladu’r estyniad newydd. Mae’r prosiect wedi derbyn arian cyfalaf o goffrau Cyngor Celfyddydau Cymru (arian Loteri Cenedlaethol), Llywodraeth Cymru (cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid) a Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop er mwyn sicrhau bod y prosiect yma yn cael ei wireddu.

Bydd rhaglen ddigwyddiadau Galeri yn parhau yn ystod y cyfnod adeiladu, a byddwn yn ceisio sicrhau na fydd y gwaith adeiladu yn effeithio yn ormodol ar ein gweithrediadau. Mi fydd yn rhaid creu mynedfa newydd dros-dro tan i’r adeilad newydd agor cyn Haf 2018.

13.02.17 Unedau/Swyddfeydd ar osod

Mae gan y cwmni 3 uned gwaith/swyddfa ar gael i’w rhentu:

Galeri | Uned 4 | 17m2 | £4,400 +TAW y flwyddyn | Taflen wybodaeth ar gael yma
Galeri | Uned 20 | 17m2 | £3,900 +TAW y flwyddyn | Taflen wybodaeth ar gael yma
4 Stryd y Plas (lloriau 1 a 2) | 91m2 | £5,280 y flwyddyn | Taflen wybodaeth ar gael yma

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Neil Davies:
01286 685 205 | 01286 685 206 | neil.davies@galericaernarfon.com

27.01.17 Gohirio Cyngerdd Gala Santes Dwynwen

imageYn anffodus, mae Shan Cothi yn sâl hefo’r ffliw.

O’r herwydd, mae’n rhaid gohirio a cheisio ail-drefnu cyngerdd Gala Santes Dwynwen heno yn Galeri, Caernarfon.

Bydd Galeri mewn cysylltiad gyda pawb sydd wedi archebu tocynnau i drafod ymhellach.

Unrhyw ymholiadau, croeso i chi gysylltu â Galeri drwy ffonio 01286 685 222.

04.01.17 Diweddariad: Sinema newydd 2 sgrin Galeri

imageYm mis Rhagfyr, rhyddhawyd pecynnau tendro ar gyfer cytundeb adeiladu’r sinema 2 sgrin newydd yn Galeri. Y bwriad yw dechrau’r gwaith yn Chwefror neu fis Mawrth 2017 ar gyfer agor yn 2018.

Mi fydd agor y sinema pwrpasol newydd yma yn golygu mai Caernarfon fydd yr unig sinema aml-sgrin yn siroedd Gwynedd a Môn. Mae’r datblygiad hefyd am ein galluogi i ryddhau’r prif theatr 394 sedd ar gyfer datblygu’r rhaglen artistig a defnydd masnachol megis cynadleddau a priodasau.

Pan fydd y sinema 2 sgrin yn cael ei hagor, mi fydd yn rhedeg ffilmiau 7 diwrnod yr wythnos ac yn cynnig ffilmiau newydd sbon, ffilmiau annibynnol a rhyngwladol yn ogystal â ffilmiau ar themau amrywiol drwy’r flwyddyn.

25.11.16 Cyhoeddi rhaglen Ionawr – Ebrill 2017

imageBydd rhaglen newydd tymor Ionawr – Ebrill 2017 yn cyrraedd Galeri ac i bawb sydd ar y rhestr bostio yn ystod yr wythnosau nesaf.

Os na allwch aros – yna lawrlwythwch y rhaglen yn ddigidol drwy glicio yma

Mae tocynnau’r tymor bellach ar werth. Cofiwch hefyd bod tocynnau anrheg ar gael a’n bod yn cau dros gyfnod y Nadolig. Bydd y Swyddfa Docynnau yn cau am y Nadolig am 14:30 ar ddydd Gwener, 23.12.16 (ac yn ail agor am 09:00 dydd Mercher, 03.01.17)

18.11.16 Enillwyr Arddangosfa Agored 2016

imageMewn seremoni wobrwyo yn y Safle Celf nos Wener, 11.11.16, cyhoeddwyd enillwyr Arddangosfa Agored 2016 gan y noddwyr – Gwyn a Mary Owen:

Gwobrau’r Noddwyr (dewis Gwyn a Mary Owen)
1af | ‘Remember/Forget’ gan Hannah Malise Lloyd
2il | ‘Mewnol’ a ‘Gwraig o Flodau’ gan Ffion Pritchard
3ydd | ‘ANS’ gan Michael Roberts
3ydd | ‘Gwellau Llaw’ gan Mared Fflur Davies

Gwobr Dewis y Bobl 2016:
1af | ‘ANS’ gan Michael Roberts

Hoffai Galeri ddiolch a llongyfarch yr holl ymgeiswyr. Mae ffurflen gais Agored 2017 bellach ar gael gyda cynnydd yn y gwobrau ariannol, diolch i haelioni noddwyr y gystadleuaeth – Gwyn a Mary Owen.

Gellir ei lawrlwytho yma

10.11.16 Marchnad Nadolig Galeri 2016

imageCofiwch am ein Marchnad Nadolig – dydd Sul, 20 Tachwedd (10:00 – 16:00). Cyfle gwych i brynu/archebu anrhegion Nadolig arbennig. Cliciwch yma i lawrlwytho’r poster a manylion stondinwyr.

Bydd y swyddfa docynnau ar agor o 09:30 – 16:00 er mwyn archebu tocynnau neu docynnau anrheg.

Mynediad am ddim! Am fwy o fanylion: 01286 685 222

29.09.16 Oriau agor bar / cegin: tymor yr Hydref

Mae newid i’r oriau agor cegin/bar am dymor yr Hydref:

dydd bwyd ar gael bar
Llun – Iau 12:00 – 19:00 11:00 – 21:00
Gwener 12:00 – 19:00 11:00 – 22:00
Sadwrn 12:00 – 15:00 11:00 – 22:00
Sul ar gau 11:00 – 18:00

Bydd y bar ar agor yn hwyrach ar nosweithiau lle mae digwyddiadau.

I archebu bwrdd: 01286 685 200 neu cegin@galericaernarfon.com

08.09.16 Sesiwn Sgriblo (17.09.16)

Yn anffodus, mae'n rhaid gohirio sesiwn Sgriblo 17.09.16.

Felly, dim ond 3 sesiwn Sgriblo fydd yn y tymor:
01.10.16 - 19.11.16 - 03.12.16

Cofiwch bod Penwythnos Mawr Roald Dahl Caernarfon yn digwydd ar y dydd Sadwrn 17.09.16 gyda digwyddiadau creadigol a hwyliog i'r teulu.

08.09.16 Gwenfflam Caernarfon Alight: galw am wirfoddolwyr

Fel rhan o ddigwyddiad 'Gwenfflam Caernarfon Alight' sydd yn cael ei gynnal yng Nghastell Caernarfon ddiwedd y mis, ar nos Wener, 30 Medi bydd prosesiwn arbennig yn gadael Galeri am 19:00 ac yn dilyn band 'Mr Wilson's Second Liners' drwy strydoedd Caernarfon i'r Cei Llechi.

Mae angen arnom dros 80 o wirfoddolwyr i garrio tortshys tân a stiwardiaid i roi help llaw o 17:00 - 20:00 ar y noson. Mae'n rhaid bod yn 16 mlwydd oed neu hyn i allu ein helpu.

Mae hefyd cyfle i ddod i roi help llaw i blant a phobl ifanc prosiect Sbarc-Galeri ar nosweithiau Llun a Mercher i greu llusernau arbennig fydd yn cael eu defnyddio yn y prosesiwn.

Cwmni Walk the Plank sydd yn creu'r digwyddiad fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Antur Cymru 2016.

Oherwydd y prosesiwn, ni fydd perfformiad yn y castell rhwng 19:00 - 20:00 ar y nos Wener, 30.09.16.

Am fwy o fanylion:
01286 685 250
post@galericaernarfon.com

26.08.16 Newid ffilm: Sgrin am Sgrin (29.09.16)

imageMae newid i’r rhaglen sydd wedi cael ei chyhoeddi.

Ffilm ‘Sgrin am Sgrin’ (£1 y tocyn) mis Medi fydd THE KILLING$ OF TONY BLAIR [15].

Mae tocynnau ar werth o’r Swyddfa Docynnau neu drwy ffonio 01286 685 222.

12.08.16 Arddangosfa ‘Perthyn’ gan Cefyn Burgess

imageCofiwch am agoriad swyddogol arddangosfa ‘Perthyn’ gan Cefyn Burgess – dydd Sul, 14.08.16 am 14:00.

Dafydd Wigley fydd yn agor yr arddangosfa, gyda Cefyn yn cynnal sgwrs am 15:00 am yr arddangosfa a’r prosiect ehanghach.

Croeso cynnes i bawb, mynediad yn rhad ac am ddim.

01.07.16: Newid i ddyddiad cau ceisiadau Agored 2016

Oherwydd newid i ddyddiad panel dethol Arddangosfa Agored 2016, mae’r dyddiad cau wedi cael ei ymestyn i 16:00, dydd Sul 31.07.16.

Am ffurflen gais – cliciwch yma

Os oes angen mwy o wybodaeth/sgwrs, cysylltwch â Lisa Taylor ar 01286 685 208.

08.06.16: Gohirio taith Cymru o Caitlin

imageYn anffodus mae cwmni cynhyrchy Light, Ladd & Emberton wedi gorfod gohirio taith Caitlin oherwydd anaf i Eddie Ladd.

Mi fydd staff Galeri yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer trefnu ad-daliadau.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra, a dymunwn wellhad buan i Eddie. Gobeithio gallwn groesawu’r cwmni yn ôl i Galeri i berfformio Caitlin yn fuan. Cadwch lygad allan am unrhyw newyddion/ddiweddariad.

19.05.16: Diweddariad: Sinema newydd Galeri

imageMae datblygiad ein estyniad fydd yn cynnwys 2 sgrîn sinema gam yn agosach gyda’r cais cynllunio wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Gwynedd ddydd Llun, Mai 16.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn cwblhau’r dyluniad mewnol, cadarnhau’r pecyn cyllid ac yn mynd allan i dendr ar gyfer cytundeb adeiladu’r estyniad.

Ein gobaith yw dechrau ar y gwaith ym mis Ionawr 2017 ac i agor ym mis Ionawr 2018.