Cyngerdd Pencerdd / Chief Musician Concert
Cyfle i wrando ar berfformiadau gan rai o sêr y dyfodol wrth i'r telynorion a ddaeth i'r brig ym mhrif gystadleuaeth "Y Pencerdd" ymrafael am y gwobrau, mewn cyngerdd o gerddoriaeth o'u dewis eu hunain.
Bydd pob un yn ymuno gyda'r feiolinydd Simon Chalk i berfformio "Fantaisie i Delyn a Ffidil” Op. 124 gan Camille Saint-Saens o flaen Panel o feirniaid rhyngwladol.
Trefnir yr Ŵyl gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Cefnogir y cyngerdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.