Mae Sbarc yn cael ei ailwampio!
Ar ôl cymryd hoe bach ers 2020 mae Sbarc yn ail cychwyn efo amryw o weithdai unigryw.
O weithdai roc i jazz ac actio i ddawnsio mae yna rhywbeth i ddant pawb.
Bwriad Sbarc yw i gynnig rhaglen newydd sbon o weithgareddau, gweithdai, a phrofiadau celfyddydol amrywiol drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd creadigol plant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg.
Addas ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 ac 18 oed (ond oedran addas yn amrywio yn dibynnol ar y gweithdy).