Cyngerdd/Concert: Edmar Castaneda & Catrin Finch
Daw'r cyngerdd hwn a dau gyfandir at ei gilydd wrth wrando ar delynau Llanera o America Ladin gyda cherddoriaeth telyn o Gymru ac Ewrop.
'Does dim angen cyflwyno Catrin Finch i gynulleidfaoedd yng Nghaernarfon a bu'n creu partneriaethau cerddorol gwych gyda cherddorion ar lawer math o delynau o ddiwylliannau tra-gwahanol i'w gilydd.
Hwn fydd y tro cyntaf iddi rannu llwyfan gydag Edmar Castaneda y telynor eithriadol o Colombia a ddisgrifiwyd gan y New York Times fel " bron yn fyd ynddo'i hun." Bydd yn achlysur tanbaid - peidiwch â'i golli!!
Trefnir yr Ŵyl gan Ganolfan Gerdd William Mathias. Cefnogir y cyngerdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.