Gorsaf drenau agosaf: Bangor
Maesydd awyr agosaf: Môn [teithiau o Gaerdydd] / Lerpwl (John Lennon) / Manceinion
Porthladd agosaf: Caergybi
Trafnidiaeth gyhoeddus: Gwasanaeth bysiau cyson i Gaernarfon o Fangor, Pwllheli, Porthmadog. Am yr amserlen cliciwch yma
Teithio o’r gorllewin (o gyfeiriad Porthmadog/Pwllheli)
Wrth gyrraedd Caernarfon ar yr A487, parhewch ar y ffordd heibio archfarchnad Tesco am hanner milltir cyn cyrraedd cylchfan fawr. Archoswch ar ochor chwith y ffordd a chymrwch yr ail droad i gyfeiriad yr afon Menai (rhwng Yr Hwylfan a Morrisons). Ar ôl 100m trowch i’r chwith ar y gylchfan fach ac fe welwch adeilad Galeri 200m o’ch blaen ar y dde.
Teithio o’r dwyrain (Bangor)
Pan gyrhaeddwch gylchfan archfarchnad Morrisons ewch yn yn syth yn eich blaen ond wedyn ewch i’r lôn dde. Wrth gyrraedd yr ail gylchfan cymerwch y bedwaredd troad (rhwng Yr Hwylfan a Morrisons) tuag at y Fenai. Ar ôl 100m trowch i’r chwith ar y gylchfan fach ac yna fe welwch Galeri 200m o’ch blaen ar y dde.
λ [Lledred] 53.14326
φ [Hydred] -4.27528