galeri


Cei Llechi

Mae prosiect adfywio ardal Cei Llechi yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri Caernarfon Cyf.

Dyma brosiect gwerth £3.5m sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth (Loteri), Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth yr Harbwr, Caernarfon.

Mae’r gwaith yn gyfuniad o adfer hen adeiladau y safle yn ogystal â chodi adeiladau newydd.

Ar y safle bydd 19 o unedau gwaith / crefft / manwerthu yn ogystal a 3 llety gwyliau ac ystafell gyfarfod. Bydd y safle yn agor ar ei newydd wedd yn ystod Haf 2021.