Mae Galeri yn hygyrch i bawb:
Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn
- Ardaloedd parcio penodedig gyda mynediad hawdd i’r adeilad
- Cownter is yn y Swyddfa Tocynnau
- Toiledau hygyrch ar bob lefel o’r adeilad
Dall / Nam ar y Golwg
- Mae croeso i gŵn tywys
- Fersiynau print bras a CD o lawlyfr y tymor ar gael. Cysylltwch â ni i gael copi: 01286 685 222
- Fersiwn MP3 o’r rhaglen sain ar gael yma
- Ffilmiau disgrifiad clywedol - cysylltwch â’r Swyddfa Tocynnau bythefnos cyn i’r ffilm gael ei sgrinio i gadarnhau bod y gwasanaeth ar gael.
- Toiledau hygyrch ar bob lefel o’r adeilad.
Byddar / Nam ar y Clyw
- Gwasanaeth archebu ar-lein ar gael ar gyfer pob sioe / ffilm
- Gwasanaeth archebu dros yr e-bost ar gyfer gofynion arbennig: post@galericaernarfon.com
- System Dolen Isgoch drwy’r adeilad cyfan – rhowch wybod i’r rheolwr ar ddyletswydd os bydd angen unrhyw gymorth arnoch
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni:
01286 685 222 | post@galericaernarfon.com