Mae’r rhan helaeth o brosiectau y cwmni ers sefydlu ym 1992 yn gysylltiedig â adnewyddu hen adeiladau gwag oedd yn bodoli yng nghanol tref Caernarfon.
Dros y tri degawd a mwy diwethaf, mae’r cwmni wedi trawsnewid dros ugain o adeiladau arferai fod yn wag, a’u trawsnewid i fod yn ofodau/unedau ar gyfer unigolion, cwmnïau a sefydliadau i leoli yng Nghaernarfon – yn swyddfeydd, siopau, salonau, caffis/bwytai, gweithdai a adeiladau preswyl (fflatiau/tai).
Rydym yn gyfrifol am osod unedau/adeiladau ar draws 3 prif leoliad:
Lleoliad |
Addas i.. |
Argaeledd |
---|---|---|
Canol tref Caernarfon |
Fusnesau amrywiol (siopau / caffis / swyddfeydd) ac unedau preswyl (fflatiau/tai) |
Bob uned yn llawn |
Cei Llechi, Caernarfon |
Fusnesau sydd yn creu/cynhyrchu – safle ar gyfer cynhyrchu a manwerthu yw Cei Llechi |
2 uned ar gael |
Galeri, Caernarfon |
Fusnesau sydd yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol/celfyddydau |
Bob uned yn llawn |
Os hoffech fwy o fanylion neu am sgwrs bellach, cysylltwch â’r adran adnoddau:
eiddo@galericaernarfon.com | 01286 685 206 | 01286 685 205
Dyma fwy o wybodaeth am ein eiddo:
Dyma brosiect adfywio diweddaraf y cwmni oedd yn gweithio ar ran perchnogion y safle, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon.
Mae’r unedau gwaith/gweithdai a manwerthu ar y safle yn addas i wneuthurwyr o bob math – cyn belled a bod y cynnyrch yn cael ei greu a’i ddatblygu yn yr uned.
Dyma leoliad perffaith ar gyfer busnes sydd yn creu gwaith creadigol o unrhyw fath – gyda metel, gwydr, gemwaith, coed, tecstiliau, celf, bwyd neu ddiod.
I ddatgan diddordeb ac am fwy o wybodaeth:
ceillechi.cymru
ceillechi@galericaernarfon.com
Os hoffech gael eich ychwanegu ar ein rhestr aros swyddfa/siop, ebostiwch eiddo@galericaernarfon.com gyda eich enw / rhif cyswllt a manylion am y math o eiddo yr ydych yn chwilio amdano.
Mae gan y cwmni eiddo preswyl yn:
- Stryd y Plas, Caernarfon
- Stryd Fawr, Caernarfon
- Twll yn Wal, Caernarfon
- Stryd y Farchnad, Caernarfon
- Stryd yr Eglwys, Caernarfon
Dim ond yr eiddo dan sylw sydd ar gael ar hyn o bryd. Os hoffech fwy o wybodaeth am ein eiddo, cysylltwch â’r adran adnoddau:
01286 685 205 | 01286 685 206 | eiddo@galericaernarfon.com
Ers agor Galeri yn 2005, mae’r adeilad wedi bod yn gartref i gwmnïau preswyl amrywiol – gyda’r cwmnïau yma i gyd yn gweithio o fewn y diwydiannau creadigol / celfyddydau.
Erbyn heddiw, mae 14 o gwmnïau (yn cynnwys Galeri) wedi’u lleoli yn Galeri ac yn cyflogi dros 80 o staff.
HENO (Tiniopolis)
Dawns i Bawb
Lambe Planning & Design
BDS Gwynedd
Strello
Gorwel
Golwg
Information to follow...
Canolfan Gerdd William Mathias
Delwedd
Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn