Os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer cynnal eich:
- Cyfarfod
- Cynhadledd
- Lanwsiad
- Cyflwyniad
- Hyfforddiant
- Noson Wobrwyo
Mae Galeri yn cynnig y lleoliad perffaith, yr adnoddau, arbenigedd â thîm proffesiynol ar gyfer hwyluso eich digwyddiad chi - boed ar gyfer 2 neu 400 o bobol.
Am fwy o fanylion: Iona Davies | 01286 685 218 | iona.davies@galericaernarfon.com
Chwilio am leoliad ar gyfer gwledda, seremoni wobrwyo neu frecwasr priodas? Gall Galeri gynnig lleoliad unigryw ac arbennig iawn ar eich cyfer.
Wedi’i leoli yn Doc Fictoria, ar lannau’r Fenai a gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir- mae’n anodd dychmygu lleoliad gwell i ddathlu eich achlysur.
Gellir troi prif theatr Galeri yn ardal arddull cabaret i 150 o bobl – neu gall Café Bar neu ein Stiwdios gynnig lleoliad llai o faint, mwy personol ar gyfer eich diwrnod mawr.
Gyda’n gilydd, gallwn weithio gyda chi o ran thema, cyllideb, cynllun lliwiau, bwydlen, diodydd (trwydded hwyr ar gael) ac ati.
Am ragor o wybodaeth ac i gadarnhau dyddiadau cysylltwch â ni.
Theatr arddull Cabaret - 150
neu gall Café Bar neu ein Stiwdios gynnig lleoliad llai o faint, mwy personol ar gyfer eich diwrnod mawr.
Dyma brif leoliad Galeri ar gyfer digwyddiadau – gyda’r gallu i ddal cynulleidfa o 394 o bobl ar eu heistedd.
Mae’n bosib tynnu’r seddi is oddi yno – i adael llawr clir ar gyfer arddangosfeydd, achlysuron lansio cynnyrch neu giniawau gala/gwobrwyo neu ar frecwast priodas.
Mae cymorth technegol llawn a chyfleusterau arlwyo ar gael yn fewnol.
Eistedd - 394
Cabaret - 130 – 150 [yn ddibynol ar faint y llwyfan]
Sefyll - 250
Ystafell Bwyllgor - 50
Siâp U - 50
- Cynllun llawr o’r theatr
- Manylion technegol
Stiwdio wedi ei lleoli ar y llawr isaf. Mae’r stiwdio 113m² yn berffaith ar gyfer cyflwyniadau, arddangosfeydd neu gyfarfodydd mwy o faint.
Mae cymorth technegol llawn a chyfleusterau arlwyo ar gael yn fewnol.
Eistedd - 100
Cabaret - 30 – 70 [yn ddibynol ar faint y llwyfan]
Sefyll - 100
Ystafell Bwyllgor - 30
Siâp U - 30
Llun gan BBC Get Creative © BBC Cymru Wales
Stiwdio uwchben ardal y bar (ar lefel 2). Mae’r stiwdio’n ddelfrydol ar gyfer cyflwyniadau, arddangosfeydd a chyfarfodydd. Mae gan y stiwdio ardal mesanîn sy’n edrych i lawr ar ardal y bar – lle gellir gweini lluniaeth neu gofrestru gwesteion.
Mae cymorth technegol llawn a chyfleusterau arlwyo ar gael yn fewnol.
Eistedd - 100
Cabaret - 60 [yn ddibynol ar faint y llwyfan]
Sefyll - 100
Ystafell Bwyllgor - 30
Siâp U - 30
Wedi ei leoli yg nghanol y ganolfan ar y llawr isaf. Gofod sydd yn addas ar gyfer achlysuron preifat, lansio cynnyrch, arddangosfeydd bach neu fel ardal luniaeth neu gofrestru ar gyfer cynadleddau preifat. Gellir hefyd cynnal digwyddiadau llai ffurfiol yn y bar i hyd at 70 person.
Gyda golygfeydd bendigedig ar draws DOC Fictoria a’r Fenai – dyma brif ystafell gyfarfod Galeri, wedi ei lleoli ar lefel 1.
Gellir cael cyfarfod i hyd at 18 person yn yr ystafell hon
Ystafell aml-bwrpas ar yr ail lawr. Gallyr ystafell gael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd, sgyrsiau, cyfweliadau neu weithdai.
Eistedd - 30
Ystafell Bwyllgor - 25
Siâp U - 22