galeri
Synwyriwm

Amser i Siarad x Galeri: Synwyriwm

Crynodeb o'r Prosiect

Mae Synwyriwm yn brosiect Celfyddydau ac Iechyd a grëwyd gan Amser i Siarad (AiS) a Galeri Caernarfon mewn cydweithrediad â Phlas Newydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r prosiect yn harneisio'r celfyddydau creadigol i gefnogi unigolion gyda'u hiechyd meddwl. Rydym wedi comisiynu pum artist Cymraeg eu hiaith i gynhyrchu gweithiau celf synhwyraidd wedi'u hysbrydoli gan dreftadaeth Plas Newydd. Defnyddiwyd y darnau hyn mewn gweithdai creadigol gyda chleientiaid AiS, gan annog ymgysylltiad a sgyrsiau ystyrlon i wella iechyd meddwl.

Daw’r prosiect i ben gydag arddangosfa deithiol yn Galeri Caernarfon a Phlas Newydd, gan arddangos y gweithiau a gomisiynwyd a’r celf a grëwyd yn ystod gweithdai. Nod yr arddangosfa hon yw lleihau'r stigma sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, hybu ymwybyddiaeth, a dathlu croestoriad celf ac iechyd.

Amser i Siarad (AiS)

Elusen iechyd meddwl grassroots yw AiS sy’n cefnogi oedolion, plant a phobl ifanc ar draws Ynys Môn a Gwynedd. Wedi’i leoli yng Nghaernarfon, mae AiS yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys un i un, grwpiau therapiwtig a hyfforddiant ar draws y ddwy sir.

Galeri Caernarfon

Mae Galeri Caernarfon yn ganolfan gelfyddydau gymunedol ddielw sy’n cynnig theatr, sinema, unedau gwaith, a gofodau arddangos. Adlewyrchir ein gweledigaeth, "Creu Cyfoeth Cymunedol Cynaliadwy" yn ein rhaglenni artistig amrywiol, gan gynnwys theatr, ffilm, arddangosfeydd, cerddoriaeth, a gweithdai.



Synwyriwm: Ticky Lowe



Synwyriwm: Ella Louise Jones



Synwyriwm: Ffion Pritchard


Synwyriwm: Glyn Price


Synwyriwm: Sarah Zyborska