galeri


Covid-19

Dyma dudalen penodol i geisio ateb eich cwestiynau ynglyn a sefyllfa COVID-19 yma’n Galeri.

Diolchwn i chi am eich cydweithrediad, eich cefnogaeth, eich amynedd â’ch cydweithrediad parod ers ail-agor Galeri – ac am gydymffurfio gyda’r canllawiau a deddfwriaeth sydd wedi bod mewn lle yn ystod y cyfnod.

Ers dydd Llun (28.2.22) does dim deddfwriaeth mewn lle o ran gallu mynychu digwyddiadau mewn theatr/sinema.

Byddwn yn parhau i weithredu camau diogelwch ychwanegol yma’n Galeri, sef:

Byddwn yn diweddaru’r dudalen yma pan fydd y sefyllfa a’r canllawiau yn newid.

Cwestiynnau cyffredinol

Ers dydd Llun, 28.02.22 – does dim rhaid gwisgo mwgwd pan yn ymweld â theatr/sinema yn gyfreithlon. Dewis unigolion fydd gwisgo mwgwd neu beidio.

Mae gennym system awyru yn y theatr â’r sinemâu sydd yn sicrhau cyflenwad o aer ffres cyson. Does dim aer yn cael ei ailgylchu ogwbwl – mae hyn yn adnodd hollbwysig i ni er mwyn gallu diogelu chi fel cynulleidfa (a rheoli y tymheredd yn y gofodau).

Mi fydd rhai aelodau o staff yn parhau i wisgo mwgwd tra ar ddyletswydd.

 

Rydym yn hyrwyddo archebu tocynnau ar-lein lle’n bosib. Gellir archebu tocynnau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Byddwch angen creu cyfrif ar ein system/gwefan os yn archebu tocynnau am y tro cyntaf.

Mae’r Swyddfa Docynnau bellach ar agor 6 diwrnod yr wythnos:

Llun – Gwener > ar agor o 09:00 hyd at amser dechrau’r digwyddiad olaf ar y diwrnod.

Sadwrn > ar agor o 09:30 hyd at amser dechrau’r digwyddiad olaf ar y diwrnod.

Gellir galw fewn, ffonio 01286 685 222 neu ebostio tocynnau@galericaernarfon.com os oes gennych gwestiwn neu ymholiad.

Awgrymwn yn gryf eich bod yn archebu eich tocynnau yn gynnar i osgoi siom.

 

Rydym wedi dechrau argraffu tocynnau a dyna yw’r drefn gyfredol (noder gall hyn newid).
Gofynnwn i chi gyrraedd oleiaf 30 munud cyn amser y ffilm/digwyddiad er mwyn casglu eich tocyn ac i ni wirio eich pas covid.

 

Ar gyfer tocynnau/seddi cadair olwyn, bydd angen cysylltu yn uniongyrchol â’r Swyddfa Docynnau:
01286 685 222
tocynnau@galericaernarfon.com
neu drwy alw fewn yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau.

 

O 28.1.22, does dim uchafswm ar y nifer o bobl gaiff eistedd gyda’u gilydd.

Rydym bellach yn gweithredu y sinema, theatr a’r Café Bar i gapasiti llawn.

O 28.1.22 rydym yn gweithredu’r sinema, theatr a’r Café Bar i gapasiti llawn.

Mae gennym fesurau diogelwch ychwanegol yn y gofodau yma e.e. mae’r theatr/sinema yn rhedeg system awyru sydd yn sicrhau cylenwad aer ffres drwy’r amser.

Ni fyddwn yn argraffu rhaglen/amserlen ond mae posib gweld holl ddigwyddiadau Galeri ar ein gwefan.

Os ydych ar Facebook, Twitter a/neu Instagram – cofiwch ein dilyn, byddwn yn diweddaru yn rheolaidd.

Mae ebost wythnosol hefyd yn cael ei ebostio gyda’r diweddaraf o ran digwyddiadau/dangosiadau ac arddangosfeydd.

 

Gofynnwn i bawb gyrraedd Galeri oleiaf 30 munud cyn y digwyddiad dan sylw er mwyn sicrhau bod y tocynnau wedi‘u dosbarthu a phob pas wedi cael eu gwirio.

Bydd y Bar ar agor (diodydd oer/poeth) ac y ciosg ar agor cyn ffilmiau 20 munud ymlaen llaw. Bydd drysau’r sinema yn agor 20 munud cyn amser y ffilm (noder mai‘r amser sydd ar y wefan/digwyddiad yw amser dechrau’r ffilm).

Cofiwch hefyd gysidro amser parcio, y tywydd a’r traffig wrth gynllunio eich taith (mae disgwyl oedi oherwydd gwaith y ffordd osgoi).

NI CHANIATEIR MYNEDIAD YN HWYR I DDIGWYDDIADAU. FYDDWN NI CHWAITH DDIM YN CYNNIG CREDYD AR EICH CYFRIF OS BYDDWCH YN HWYR.

 

Mae’r Café Bar ar agor. Ar hyn o bryd, dyma’r oriau agor:


Dydd

Oriau agor

Cegin

Llun

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30

Mawrth

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30 

Mercher

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30 

Iau

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30 

Gwener

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30 

Sadwrn

10:00 tan amser dechrau’r digwyddiad olaf **

10:30 – 14:30 

Sul

Closed

Closed

** bydd y bar ar agor yn hwyrach ar gyfer digwyddiadau byw (i gynnwys yr egwyl ac ar ôl y sioe)

Am fwy o fanylion ac i archebu bwrdd > https://www.galericaernarfon.com/bar-cegin-galeri.html

Bydd.
Mi fyddwn yn agor y ciosg 20 munud cyn amser y ffilm. Gofynnwn i chi dalu gyda cerdyn di-gyffwrdd os yn bosib. Bydd y ciosg yn cau ar yr amser mae’r ffilm yn dechrau.

Gofynnwn yn garedig i chi roi’r sbwriel yn y bin wrth adael y sinema.

 

Mae ein gofodau ar gyfer digwyddiadau (sinema, theatr a’r stiwdios) yn defnyddio aer o duallan yr adeilad fewn i’r gofodau ac yn tynnu allan aer a’i ryddhau tuallan. Does dim aer yn cael eil ailgylchu yn y gofodau.

Mae ffenestri ar agor yn yr adeilad ar gfyer sicrhau awyr iach yn y mannau cyhoeddus a’r Café Bar.

 

Rydym wedi cysylltu gyda phawb oedd wedi archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau a ganslwyd.
Mae sawl digwyddiad wedi cael ei ail-drefnu (gellir gweld rhain ar ein gwefan).
O ran ad-daliadau,  fe ddylai bod pawb oedd wedi archebu tocynnau wedi cael ad-daliad/credyd ar eu cyfrif.

 

Yn unol a’n polisi, ni allwn gynnig ad-daliadau.

Os cawn oleiaf 12 awr o rybudd, gallwn roi credyd ar eich cyfrif tocynnau i’w ddefnyddio yn y 12 mis nesaf yma yn Galeri (codir ffi o £1 y tocyn am hyn).

Bydd rhaid ebostio tocynnau@galericaernarfon.com i wneud cais am gredyd ar eich cyfrif.

Rydym yn hapus i chi drosglwyddo’r tocynnau i rhywun arall os yn haws ond cofiwch bydd rhaid cyflwyno Pas Covid.

 

Mae eich adborth (positif neu beidio) am ein helpu i addasu a gwella ein systemau a’r hyn rydym yn ei gynnig yma’n Galeri.

Yn yr un modd, mae croeso i chi ebostio post@galericaernarfon.com gyda unrhyw sylwadau.

 

Mae pob tocyn anrheg (oedd yn ddilys 21.03.20) wedi cael eu ymestyn i’w defnyddio erbyn 31.12.21.

Mae gostyngiadau PRIMA nol.

Tocynnau sinema: £5 yn unig
Gostyngiadau ar ddigwyddiadau byw
Gostyngiadau ar ddangosiadau arbennig (e.e. NT Live / NY Met / Cyngherddau ar y sgrîn fawr / nosweithiau ffilm arbennig yn cynnwys holi ac ateb)

I ymaelodi â’n cynllun cyfeillion – cysylltwch â’r swyddfa docynnau.
Aelodaeth 1 person: £18 y flwyddyn
Aelodaeth 2 berson: £30 y flwyddyn

Pe bydd angen, byddwn yn rhannu manylion cynulleidfaoedd gyda’r tîm profi, olrhain a diogelu.

Rydym wedi ail-agor ystafelloedd cyfarfod/cynadleddau ers mis Medi. I drafod llogi ystafelloedd ar gyfer cyfarfod, cynadleddau, ymarferion neu dderbynniad priodas – cysylltwch ar ebost : iona.davies@galericaernarfon.com.