Iona ac Andy - Y Cyngerdd Olaf
Yn 2024 bydd Iona ac Andy yn dathlu 45 mlynedd o ganu (yn ogystal a phenblwydd Andy yn 80!), ac maent wedi penderfynu y bydd y flwyddyn yma yr un olaf iddyn nhw drafaelio a chanu mewn cyngherddau. Gallent ddim meddwl am le gwell i orffen eu gyrfa llwyddiannus nac yma yn Galeri ac yn y dref lle ddaru nhw gyfarfod yn 1979.
Maent wedi perfformio drost y byd yn cynnwys ar y Grand Old Opry, y Bluebird Cafe a'r Station Inn yn Nashville. Wedi cynrychioli Cymru yng ngwyl Canu Gwlad Wembley yn Llundain ac mewn sawl gwlad eraill. Maent wedi derbyn nifer o wobrau Canu Gwlad ac yn 1987 dewiswyd nhw yn Ddeuawd Canu Gwlad mwyaf poblogaidd Prydain. Yn 2011 fe anrhydeddwyd Iona i'r 'Country Music Hall Of Fame' am ei gwasaneth i Ganu Gwlad yng Nghymru.
Yn ymuno a nhw yn ei cyngerdd olaf yw dau ffrind agos sef y canwr talentog o Gaernarfon Jonathan Davies a'r digrifwr i arwain y cyngerdd olaf sef Dilwyn Pierce sydd wedi perfformio mewn sawl gwlad gyda nhw yn ystod eu gyrfa.
Maent yn gobeithio y medrwch ymuno a nhw yn eu cyngerdd olaf yn y theatr lle maent wedi cael cyngherddau gwych drost y blynyddoedd.