Byth Bythoedd Amengan Mared Jarman
“Ma bywyd yn brutal. Ond mae’n gallu bod yn biwtifful hefyd.”
Pop glas,Jäger bombsa sgrolio Tinder.
Gweiddi chwil a karaoke yw curiad y ddinas.
Strydoedd yn llawn “livin’ for the weekend”…
Mae Lottie ar noson allan sy'n wahanol i bob noson allan gynt. Wrth i’r noson hwyrhau a Lottie’n ymgolli yn ei hatgofion, mae'r ffin rhwng realaeth a dychymyg yn chwalu ac mae’n cychwyn ar daith o faddeuant, hunan-ddarganfod a dawnsio fel bod neb yn edrych!
Yn ddinesig, yn ddoniol ac yn dywyll, dyma ddrama newydd gan Mared Jarman am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy’n blaenoriaethu’r brif ffrwd. Bydd Mared – sy’n llais newydd a chyffrous i fyd y theatr Gymraeg - hefyd yn ymddangos fel Lottie, ochr yn ochr â’i chyd-actor Paul Davies, dan gyfarwyddyd Rhian Blythe.
Canllaw Oed: 16+
Mae capsiynau Cymraeg a Saesneg ar gael i'r cynhyrchiad yma
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed – mwy o wybodaethYMA: https://galericaernarfon.com/downloads/271124-rhybydd-cynnwys.pdf
Nodwch bod capasiti gyfyngedig i'r daith tywys a'r sain ddisgrifiad, ac mae'n rhaid archebu lle o flaen llaw. Bydd y taith tywys yn dechrau am 18:30.
Cynhyrchiad gan Theatr Cymru
19:30 - Dydd Mawrth, 11 Chwefror Tocynnau