Bydd Gareth Gates, ynghyd ag ensemble rhagorol o berfformwyr o’r West End, yn talu teyrnged i’r pedwar bachgen o Jersey gyda’u lleisiau uchel dilychwin ac yn addo bod yn deyrnged drydanol i synau eiconig Frankie Valli a'r Four Seasons.
Gyda dros ddau ddegawd o ddominyddu’r tonnau awyr a 100 miliwn o recordiau wedi’u gwerthu, mae’r Four Seasons wedi sefydlu eu hunain yn hanes cerddoriaeth.
Gyda chaneuon fel; Can’t Take My Eyes Off You, Big Girls Don’t Cry, Sherry, My Eyes Adored You, December 63, a llawer mwy, paratowch eich hun ar gyfer noson o leisiau sy’n codi’r to, coreograffi llyfn ac antur hiraethus yn ôl mewn amser i oes aur cerddoriaeth bop!
Gyda band byw talentog yn gefn iddyn nhw, mae’n siŵr y byddwch yn gadael y theatr yn atseinio teimlad un o’r hits mwyaf enwog gan y Four Seasons: "Oh, What a Night!"
Mae posib archebu tocynnau sydd yn cynnwys Cyfarfod a Chyfarch (Meet & Greet)am £35 ychwanegol ar ben pris y tocyn. Archebwch yr opsiwn isod.
Gwybodaeth Cyfarfod a Chyfarch
Cyrraedd am 5.50pm ar gyfer cychwyn am 6pm
Mae’r tocyn hwn yn cynnig profiad cofiadwy, agos gyda Gareth Gates, gan ei wneud yn hanfodol i unrhyw gefnogwr brwd. Nifer cyfyngedig ar gael.
19:30 - Dydd Sul, 30 Mawrth Tocynnau