galeri


SŴNAMI (lansiad albwm)

image

Pum mlynedd ar ôl rhyddhau eu albym cyntaf, mae Sŵnami yn ôl gyda’u hail albym - Sŵnamii. 


Yn plethu synau synth, pop ac indie, mae’r albym cysyniadol yma yn mynd a ni ar daith trwy wahanol ’stafelloedd yng Ngwesty Sŵnami. 

Felly peidiwch colli’r cyfle i ddod i’r gwesty, a bwciwch eich tocynnau yn gynnar i sicrhau eich lle!  Tocynnau yn £10 ymlaen llaw / £13 ar y diwrnod (os bydd tocynnau dal ar gael)

Gig sefyll yn y theatr. 

Drysau @ 19:00 
Band cyntaf @ 19:30 

Holl elw yn mynd tuag at bartneriaeth gyffrous newydd rhwng Galeri Caernarfon a Clwb Ifor bach i gefnogi’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. 

Canllaw oed: 14+ (gydag oedolyn) // 16+ (heb oedolyn)

19:30 - Dydd Sadwrn, 15 Ebrill Tocynnau


Trêl