galeri


Dawns y Ceirw

image

Bydd y perfformiadau ar y 5ed o Ragfyr yn cynnwys dehongliad BSL. 

Dawns y Ceirw gan Casi Wyn

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel...

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

14:00 - Dydd Mercher, 4 Rhagfyr Tocynnau

10:30 - Dydd Iau, 5 Rhagfyr Tocynnau

13:30 - Dydd Iau, 5 Rhagfyr Tocynnau