galeri


Grîs- Sbarc

image

Ar ôl rhamant ar y traeth dros yr haf, mae Sandy a Danny yn cwrdd yn annisgwyl unwaith eto yn Ysgol Rydell. Mae Danny yn ceisio cadw ei ddelwedd tyff tra’n ymdrin â phwysau cyfoedion, yn enwedig gan ei ffrindiau cŵl. Mae Sandy, ar y llaw arall, yn ceisio ymuno â'r  Pink Ladies, grŵp o ferched dan arweiniad yr hyderus Betty Rizzo.

Mae Gris yn archwilio themâu cariad, hunaniaeth, a'r heriau sy’n gysylltiedig â phlentyndod, gan ddiweddu mewn dathliad bywiog o ieuenctid, cyfeillgawrch, a derbyn.

Llyfr, Cerddoriaeth, a Geiriau gan Jim Jacobs a Warren Casey.

Mae hwn yn gynhyrchiad ieuenctid o GREASE Young@Part gan grŵp theatr ieuenctid Galeri: Sbarc."GREASE Young@Part" yn cael ei gyflwyno drwy drefniant arbennig gyda a chyflwynir yr holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig gan Theatrical Rights Worldwide (TRW),www.theatricalrights.co.uk.

*TOCYNNAU AR WERTH 10:00yb HYDREF 31ain

Ariannwyd Sbarc gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Gwynedd.

19:30 - Dydd Mercher, 11 Rhagfyr Tocynnau