Mae Galeri Caernarfon yn gwahodd artistiaid i anfon eich cynigion ar gyfer ein safleoedd arddangos amrywiol atom. Rydym am i gyflwynwyr fod mor greadigol â phosibl gyda'ch ymatebion a chroesawn amrywiaeth o ffurfiau a deunyddiau celf. Gallai hyn gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i baentio, lluniadu, cerameg, tecstilau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, ffilm, darlunio neu osodiadau.
Bydd y gwaith a ddewisir yn cael ei gynnwys yn ein rhaglen arddangosfeydd 2024-2026. Bydd cynigion yn cael eu dewis drwy banel dethol yn cynnwys dau feirniad gwadd (i’w gadarnhau), Naomi Saunders Cyfarwyddwr Creadigol Galeri a Ffion Evans Cydlynydd Celf Galeri.
Mae croeso i chi wneud cais am un gofod arddangos yn benodol neu am mwy nag un lleoliad. Nodwch pa ofod y mae eich cynnig wedi'i fwriadu ar ei gyfer yn eich cais. Rydym yn croesawu gwaith a grëwyd yn flaenorol neu gynigion ar gyfer gwaith newydd. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan artistiaid lleol a rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
Os cewch eich dewis, cewch gyflwyniad llawn i'r gofod ac arweiniad pellach gan y Cydlynydd Celf Ffion Evans.
Anfonwch y canlynol mewn e-bost at Ffion.evans@galericaernarfon.com
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau EBRILL 15 11:59pm
Byddwn yn anelu at roi ateb i ymgeiswyr erbyn diwedd mis Mai
Safle Celf
Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid i arddangos eu gweithiau celf yn ein prif ofod arddangos yn Galeri Caernarfon. Gweler PDF am luniau o'r gofod isod.
Yn cynnwys ffi Artist o £250
Ar Y Ffram
Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid i arddangos gwaith celf gosodwaith ar raddfa fawr ar ein gofod arddangos rhyfeddol Ar Y Ffrâm wedi ei leoli yng nghanol Galeri. Gweler PDF am luniau o'r gofod isod. Ni all y gosodiad fod yn fwy na 5 metr o uchder a 2 fetr o led, fodd bynnag gellir trafod hyn ymhellach. Ni all fod yn fwy na 30Kg mewn pwysau.
Yn cynnwys Ffi Artist: £250
Y Wal
Mae'r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid i arddangos eu gweithiau celf ar y waliau ar hyd llwybr cerdded canolog Galeri. Gweler PDF am luniau o'r gofod isod.
Oriel Caffi
Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid i arddangos eu gwaith celf yn ein horiel gaffi prysur. Gweler PDF am luniau o'r gofod isod.
Cei Llechi
Mae’r alwad agored hon yn gwahodd artistiaid i arddangos eu gwaith celf yn ein Bocsys Celf sydd wedi’u lleoli ledled Cei Llechi. Gweler PDF am luniau o'r gofod isod.
Mae cyfanswm o 4 Blwch Celf:
1. Uchder 49.5cm, Lled 36.5cm, Dyfnder 25cm
2. Uchder 59cm, Lled 59.5cm, Dyfnder 25cm
3. Uchder 89.5cm, Lled 69cm, Dyfnder 25cm
4. Uchder 49.5cm, Lled 29.5cm, Dyfnder 29cm
Delweddau PDF o'r safleoedd arddangos.