Dyma brosiect newydd sydd yn cael ei reoli a’i arwain gan Galeri Caernarfon Cyf. Y cysyniad yn syml yw i roi cyfle arloesol i'r gymuned gyfan gofnodi ei hunaniaeth unigryw yng ngofodau a ffabric adeiladwaith tref Caernarfon a chyfle i glywed lleisiau sydd efallai heb eu clywed o’r blaen….
Mae ein hanes wedi cael ei adrodd gan eraill ac mae hwn yn gyfle i gyfleu sut rydym ni yn gweld ein hunain mewn ffordd gweladwy, arloesol ac yn wahanol iawn. Nid yn unig edrych nol ar y gorffennol ond bod yn hyderus mewn hunaniaeth cynwysiedig ag arloesol wrth ddychmygu'r dyfodol. Mae cyfle i gynnig nifer o wahanol math o ymyrraeth sy'n cyffwrdd a:
Ar yr un pryd, mi fydd y prosiect yn gwella edrychiad a chodi ansawdd amgylcheddol y dref a chyflwyno golau, gwyrddni a natur i ofodau llwm, llwyd sydd wedi’u hesgeluso a’u anghofio.
Ein bwriad wrth ddatblygu Canfas yw cynnwys gofodau gwag ar hyd a lled y dref – nid dim ond canolbwyntio ar ganol y dref, ond hefyd y cymunedau/stadau lle mae ein trigolion yn byw.
Mae'r prosiect yn clymu adfywio hefo'r celfyddydau; canol y dref gyda'r ystadau tai; artistiaid llawrydd gyda'r gymuned a hunaniaeth hefo'r amgylchedd.
Mae dau brosiect ar ffurf peilot (gyda diolch i Arloesi Gwynedd Wledig ac ADRA am gefnogi) wrthi yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd:
Bro Seiont, Caernarfon smewn partneriaeth â ADRA
Murlun Ellen Edwards mewn partneriaeth â Arloesi Gwynedd Wledig a gyda diolch i Gyngor Gwynedd am y caniatad i’w osod ar faes parcio Doc Victoria
Y gobaith dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yw gallu datblygu’r prosiect ymhellach – fydd yn cynnig cyfleoedd i artistiaid a’r gymuned fod yn ran ganolig o’r broses ac i drawsnewid y gofodau llwm a chyflwyno fflach o liw, ysbrydoliaeth a balchder cymunedol.
Ar ochr maes parcio Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, mae rhywbeth wedi ymddangos i ddod a lliw a diddordeb i’r wal concrit llwyd ‘da ni gyd yn ei hadnabod. ‘Gorwelion a Gobaith’ ydi enw’r gwaith celf mawr newydd wedi ei greu gan yr artist Teresa Jenellen.
Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan Ellen Edwards, ond nid portread o Ellen ydi hwn; yn hytrach, portread o ferch gyda phwrpas a gobaith, yn edrych tua’r gorwel a thu hwnt - tuag at bethau sydd eto i ddod, pethau sydd yn bosib yn y dyfodol…
I ddysgu mwy am Ellen Edwards, ewch draw i - www.ellenedwards.cymru
Dyma alwad agored i chi sy’n caru gweithio’n greadigol ac sydd eisiau cyfle unigryw i arddangos ac arfer dy ddawn.
'Da ni eisiau clywed gennych chi os 'da chi'n artist neu’n berson creadigol o Ogledd Orllewin Cymru i fod yn rhan o brosiect cyffrous CANFAS yn ystod cyfnod Tachwedd – Mawrth 2024.
Wyt ti’n berson sydd â dychymyg creadigol a meddwl agored?
Yn awyddus i ymateb i lais y gymuned?
Gyda brwdfrydedd, yr awydd a’r syniadau i ychwanegu lliw i dre’ Caernarfon?
Yn gerddor, dylunydd, crefftwr, awdur, wneuthurwr theatr neu artist gweledol?
Os wyt ti’n nodio wrth ddarllen hwn, cysyllta gyda canfas@galericaernarfon.com cyn 21ain o Fedi i fynegi dy ddiddordeb ac am wybodaeth bellach. Edrychwn ymlaen i glywed gennych!