National Youth Theatre of Wales, Fio & Theatr Genedlaethol Cymru: Dal Gafael / Hold On
National Youth Theatre of Wales, Fio a Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno:
Dal Gafael / Hold On
Gan Mared Llywelyn a Steven Kavuma
Cyfarwyddwyd gan Dr Sita Thomas
Mae ThCIC / Theatr Genedlaethol Cymru a Fio wedi ymuno â’i gilydd eleni i gyflwyno cynhyrchiad llwyfan newydd sbon gan ddau o ddramodwyr mwyaf ffres a chyffrous Cymru.
Mae Dal Gafael / Hold On gan Steven Kavuma a Mared Llywelyn yn cynhyrchiad dwyieithog gafaelgar, sy’n tystio i alwad person ifanc am well dyfodol gaiff ei lunio gan linach eu gorffennol.
Ymunwch â chast o 24 – yn cynnwys rhai o berfformwyr ifanc mwyaf talentog Cymru rhwng 16-22 oed ac wedi’i gyfarwyddo gan Dr Sita Thomas o Fio – ar gyfer stori dyner ac ingol am gyfiawnder hinsawdd a chwestiynu hunaniaeth.
Cynhyrchiad Dwyieithog gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg
Os ydych chi'n ysgol neu yn griw mawr ac eisiau archebu, manteisiwch ar ein cynnig tocyn grŵp - am fwy o wybodaeth 01286 685 222 / post@galericaernarfon.com.