galeri


Georgia Ruth + Dafydd Owain

image

Rydym yn hynod gyffrous i groesawu Georgia Ruth yn ôl i Galeri gyda band llawn i berfformio ei halbwm newydd ‘Cool Head’.

Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth, sy'n defnyddio dylanwadau gwerin i greu sain gwbl unigryw. Enillodd ei halbwm cyntaf, Week of Pines, y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg yn 2013 ac ers hynny mae hi wedi cydweithio hefo'r Manic Street Preachers, ac wedi perfformio'n rhyngwladol. 

Yn gynharach eleni, rhyddhawyd Cool Head. Dyma bedwerydd albwm y cerddor, sy'n dogfenni siwrne cathartig trwy'r tywyllwch i'r bore newydd. Mae 'Cool Head', ymadrodd byddai ei thad yn ei ddweud yn aml mewn cyfnodau anodd, yn gasgliad o ganeuon sy'n plethu dylanwadau Americana gyda pop fwy arbrofol.

Wedi'i recordio yn stiwdio Sain gyda band arbennig, trefniannau llinynol gan Gruff Ab Arwel, a llais Euros Childs ar ambell drac, dyma albwm hynod bersonol, un sydd wastad yn symud tua'r goleuni.

Yn agor y noson fydd y cerddor dawnus Dafydd Owain a’i fand, yn ein tywys i fyd dychmygol Uwch Dros y Pysgod.

19:30 - Dydd Gwener, 8 Tachwedd Tocynnau