galeri


It Ends with Us [TBC] ISDEITLAU | SUBTITLED

image

Dangosiad Isdeitlau

Mae It Ends With Us, sef nofel gyntaf Colleen Hoover a’i addaswyd ar gyfer y sgrin fawr, yn adrodd stori gymhellol Lily Bloom (Blake Lively), menyw sy'n goresgyn plentyndod trawmatig i gychwyn ar fywyd newydd yn Boston a dilyn breuddwyd oes o agor ei busnes ei hun.

Mae cyfarfod damweiniol gyda’r niwrolawfeddyg swynol Ryle Kincaid (Justin Baldoni) yn tanio cysylltiad dwys, ond wrth i’r ddau syrthio’n ddwfn mewn cariad, mae Lily’n dechrau gweld ochrau Ryle sy’n ei hatgoffa o berthynas ei rhieni. Pan mae cariad cyntaf Lily, Atlas Corrigan (Brandon Sklenar), yn ailgydio yn ei bywyd yn sydyn, mae’n cael effaith ddifrifol ar ei pherthynas â Ryle, ac mae Lily yn sylweddoli bod yn rhaid iddi ddysgu dibynnu ar ei chryfder ei hun i wneud dewis amhosibl ar gyfer ei dyfodol.

Cyfarwyddwyd gan Justin Baldoni a chynhyrchwyd gan Alex Saks, Jamey Heath, Blake Lively a Christy Hall. Yn serennu Blake Lively, Justin Baldoni, Jenny Slate, Hasan Minhaj, Amy Morton a Brandon Sklenar, a sgript gan Christy Hall sydd yn seiliedig ar y llyfr gan Colleen Hoover.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

19:00 - Dydd Llun, 12 Awst Tocynnau