galeri


Brogs y Bogs / Frogs in Bogs (Dwyieithog | Bilingual)

image

Noder mai perfformiad dwyieithog yw hwn. Mae perfformiad Cymraeg yn unig wedi ei restru dan ddigwyddiad arall.

Mae uned o blymwyr, criw o frogaod handi, o dan glo am drosedd halogi nad oeddent yn gyfrifol amdano. Dihangodd yr arwyr gwyrdd a ffoi i dduwch carthffosydd y ddinas. Heddiw, â'r llywodraeth llysnafeddog dal yn eu hel, mae nhw'n goroesi yng nghrombil y ddaear. Carcharorion dewr ar droed yn barod i wasanaethu trigolion y ddinas. Ych-a-fi's yn eich pibau? Gwynt ffiaidd yn ffrydrio'r ffenestri? Dim problem! Galwch ar BROGS Y BOGS. 

Ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy'r ffosydd a difetha'r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon gan Familia de la Noche. Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda'r amffibiaid anhygoel, fydd yn siwr o ddiddanu'r teulu cyfan.

14:30 - Dydd Mawrth, 29 Hydref Tocynnau