galeri


Miss Saigon (25th Anniversary Show) [15]

image

CinemaLive yn cyflwyno Miss Saigon (25thAnniversary Show)

O’r llwyfan mawr i’r sgrin, mae’n bleser gennym gyflwyno cyfres The World’s Greatest Stage Musicals fel rhan o’r rhaglen sinema.

Mae'r perfformiad mawreddog hwn yn ddathliad 25 mlynedd o'r sioe ar lwyfan byd-eang, a hefyd yn cynnwys ymddangosiadau gan y cast gwreiddiol gan gynnwys Jonathan Pryce a Lea Salonga. Disgrifiwyd y cynhyrchiad clodwiw hwn fel “y sioe gerdd fwyaf gwefreiddiol, egynnol ac emosiynol gyda pherfformiadau godidog” gan y Daily Telegraph a “sioe gerdd orau erioed” gan y Daily Mail. Mae’r stori garu epig yn adrodd hanes trasig y ferch bar ifanc Kim, sy’n amddifad oherwydd rhyfel, ac yn syrthio mewn cariad â GI Chris Americanaidd – ond mae eu bywydau’n cael eu rhwygo gan gwymp Saigon.

19:00 - Dydd Mawrth, 24 Medi Tocynnau