galeri


BAFTA Guru Live Cymru: Y Gogledd

image

Ymunwch efo ni ar gyfer digwyddiad arbennig BAFTA Guru Live Cymru: Y Gogledd!

Cyfres o ddigwyddiadau yw Guru Live Cymru ar gyfer doniau newydd a phobl ar ddechrau eu gyrfa ym myd ffilm, gemau a theledu, sydd â’r nod o sicrhau chwarae teg ac sy’n rhannu gwybodaeth werthfawr gan arbenigwyr yn y diwydiannau sgrin.

Sesiwn 1:Y Camau Cyntaf I Fyd Ffilm a Theledu

16:00

Sgrin 1

Barod i gymryd eich camau cyntaf i fyd ffilm a theledu? Bydd y sesiwn yma’n canolbwyntio ar sut i gael eich llwyddiant cyntaf, elfennau allweddol llwyddiant, ac yn cynnig cipolwg gwerthfawr i greu cynnwys ffurf fer a theledu.

Mae’r sesiwn yma’n ddwyieithog, gyda gwasanaeth cyfieithu ar gael.

Dan arweiniad Guto Rhun (Comisiynydd Cynulleidfa Ifanc, S4C). Ar y panel bydd cynnwys cyfarwyddwr Lindsay Walker a cynhyrchydd Sam Rhys.

Archebwch eich lle ar gyfer y sesiwn yma fan hyn:https://events.bafta.org/event/view.php?id=3208:da12-2ccb

Sesiwn 2: Bariau

17:30

Sgrin 1

Archwiliwch fyd y ddrama garchar, Bariau, wrth i ni edrych yn fanylach ar yr ail gyfres a sgwrsio gyda chrewyr y gyfres lwyddiannus yma.

Ymhlith y panelwyr mae enwebai Torri Drwodd Cymru a chynhyrchydd Bariau, Alaw Llewelyn Roberts, yr awdur Ciron Gruffydd, yr actor Gwion Tegid, a’r rheolwr cynhyrchu Elena Brown.

Mae’r sesiwn yma’n ddwyieithog. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael.

Archebwch eich lle ar gyfer y sesiwn yma fan hyn:https://events.bafta.org/event/view.php?id=3235:681a-0614

Sesiwn 3: Diodydd Rhwydweithio y Gogledd

18:45

Stiwdio 1

Ymunwch efo ni am ddiod a sgwrs ar ddiwedd y dydd i gloi’r diwrnod!

Mae llefydd yn brin a bydd tocynnau’n cael eu rhoi ar sail cyntaf i’r felin, gyda blaenoriaeth i’r bobl sydd wedi bod mewn sesiwn yn ystod y dydd.

Mwy o wybodaeth yma:https://events.bafta.org/event/view.php?id=3218:3f68-3c1c

16:00 - Dydd Mercher, 2 Ebrill Tocynnau