Carys Eleri: Tonguing
Cynhyrchiad Carys Eleri wedi'i gefnogi gan Ganolfan Mileniwm Cymru
Paratowch ar gyfer Tonguing , sioe newydd traws-genre sy’n archwilio cysylltiadau a chyfathrebu, wrth i Carys Eleri ddod â’i brand craff o gomedi’n fyw trwy wyddoniaeth a chaneuon.
Daw’r archwiliad difyr yma o fecaneg yr ymennydd ac ymchwil wyddonol fanwl yn fyw trwy straeon gwallgo, animeiddio hynod a ffrwydrad eclectig o ganeuon sy’n amrywio o electronica i ganeuon ffliwt canoloesol gydag ychydig bach o fetel trwm ar hyd y ffordd, maeTonguingyn archwilio sut mae cysylltiadau dynol yn llywio popeth, o’n hymennydd i’n cyrff, a sut y gall dibyniaeth gynyddol ar y sffêr ddigidol ein hamddifadu rhag cysylltiadau dynol go iawn.
Galwad yw hi i symud y tu hwnt i’r platfformau ar lein sydd wedi ein hynysu wrth ein gilydd, a hybu’r grefft o sgwrsio, wyneb yn wyneb, gan edrych ym myw llygaid ein gilydd – ‘IRL’
Gyda cyngor Dr Simon Fisher (‘Beyonce niwrowyddoniaeth’ yng ngeiriau Carys), a’r athroDean Burnett (awdur The Happy Brain),mae Carys – a chreoddLovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff- yn dod âTonguing, sioe newydd sbon igynulleidfaoedd, ac yn eu harwain arsiwrnai ddigri trwy ryfeddodau hynod a hyfryd y meddwl dynol.
Trafodwch. Tafodwch.
Enillydd Gwobr y Cabaret Gorau –Gŵyl yr Adelaide Fringe(Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff))
“Carismataidd a bregus, mae Eleri’n plethu jôcs, cerddoriaeth a dirnadaeth o sawl disgyblaeth i greu math newydd o hud a lledrith” -New Scientist
“Mae Carys yn ffrwydro’n gân fel Pavarotti gwrach cariad ein dydd” -Upside Adelaide
19:30 - Dydd Gwener, 30 Mai Tocynnau