Dangosiad Rhiant a Babi | Parent & Baby screening: Chevalier (12A)
Dangosiad arbennig i riant a babi (hyd at 18 mis oed). Pwrpas y dangosiadau misol yma (ar fore Gwener cyntaf y mis) yw i gynnig cyfle i rieni fwynhau ffilm gyda’u babi heb boeni am sgrechian, bwydo na amharu ar eraill… mi fydd pawb yn yr un gwch!
Mae mab anghyfreithlon caethwas a pherchenog planhigfa Ffrengig, Joseph Bologne yn codi i uchelderau cymdeithas yn Ffrainc drwy ddangos ei ddoniau chwarae fiolin anhygoel a'i allu i ffensio a chleddyf.
Yng nganol hyn i gyd, daw'r cyfansoddwr ynghlwm mewn carwriaeth a Marie Antoinette.
Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr.
Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £1.50 y tocyn.
Trêl