galeri


Gweithdy Byrfyfyr Creadigol / Creative Improvisation Workshop

image

Gweithdy trawsddisgyblaethol yn archwilio peintio, arlunio a cherddoriaeth fyrfyfyr – Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at blant 6-14, ond mae croeso i deuluoedd â phlant iau neu hŷn ymuno hefyd. Rhaid i rieni/gwarcheidwaid fod gyda phlant 6 oed ac iau Byddai'r sesiynau yn agored i bob gallu ond gallent fod yn arbennig o fuddiol i blant ag anghenion ychwanegol oherwydd natur synhwyraidd y gweithdy.


Plis dewch ag offeryn gyda chi i'r gweithdy hwn** 

Awgrymwn bod plant yn gwisgo dillad hen / cyfforddus. Darperir yr holl ddeunyddiau. Cynhelir y gweithdy yn ddwy-ieithog | capasiti cyfyngiedig | Hyd gweithdy: 2 awr. 

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

14:00 - Dydd Gwener, 25 Awst Tocynnau