TONIC - Linda Griffiths
Mae'n bleser pur ganddom groesawu un o arwyr y traddodiad gwerin yn Nghymru i berfformio yn y Galeri fis yma.
Ers ei dyddiau cynnar yn canu gyda'r triawd adnabyddus Plethyn, mae Linda Griffiths wedi swyno gwrandawyr ar draws y byd gyda'i llais hudolus a'i gosodiadau cywrain o alawon gwerin.
Bydd Linda yn cael ei chyfeilio gan ei merch ddawnus Lisa yn y cyngerdd hwn.
Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws, yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).
14:30 -
Dydd Iau, 20 Gorffennaf
Tocynnau