Gweithdy Aildanio: Cyfarfod y briff // Aildanio Workshop: Meeting the brief
Thema'r gweithdy fydd darllen a deall briff gelfyddydol a dulliau o gynhyrchu gwaith sy'n addas o ran thema.
Byddaf hefyd yn trafod sut i gynhyrchu Datganiad Artist addas a pherthnasol, yn ysgrifenedig ac ar ffurf fideo, yn ogystal â chyffwrdd â sut i ychwanegu disgrifiadau sain i’n gwaith a sut mae’r ffôn symudol yn arf creadigol hynod bwerus.
Hyd y sesiwn: 90 munud gydag egwyl gysur o 5 munud yn y canol.
Bydd y sesiwn hon hefyd ar gael yn rhithwir trwy ymuno trwy ddolen Zoom. Cysylltwch â
Ffion.evans@galericaernarfon.comos hoffech ymuno â'r sesiwn yn rhithwir. Os gwerthir pob tocyn ar gyfer y gweithdy ar ein gwefan bydd lleoedd rhithwir ar gael o hyd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.