The Scummy Mummies: GREATEST HITS
Ymunwch â Ellie a Helen wrth iddynt ddathlu degawd o fod yn “sgym”!
Mae’r “Scummy Mummies” wedi bod yn teithio’u sioeau comedi ar hyd a lled y wlad gan lenwi theatrau a gwyliau comedi. Mae taith y “Greatest Hits” yn gyfle i fwynhau goreuon y ddeuawd gomedi – yn ganeuon, sgetsus a stand-yp mewn noson llawn hwyl a chwerthin.
Noson sydd yn saff o wneud i bob rhiant deimlo yn “normal” am eu sgiliau magu plant (neu deimlo’n hunanfodlon am beidio cael plant).
Dewch i roi llond theatr o groeso i’r Scummy Mummies wrth iddyn nhw berfformio yn Galeri am y tro cynta’.
CANLLAW OED: 18+
“Highly recommended! 5 stars” - One4Review
“Very funny” - The Guardian
“Hilarious” - Broadway Baby
Trêl