Met Opera Live: Falstaff (Verdi)
Y bariton, Michael Volle, yw’r marchog bradwrus Falstaff, sy’n cael ei arteithio gan dair o fenywod clyfar sy’n cyflwyno ei haeddiant iddo, yn y gomedi Shakespeareaidd ogoneddus hon gan Verdi.
Mae’r maestro, Daniele Rustioni, yn camu ar y podiwm i oruchwylio cast ensemble gwych sy’n cynnwys y sopranos Hera Hyesang Park ac Ailyn Pérez; y mezzo-soprano, Jennifer Johnson Cano; y contralto, Marie-Nicole Lemieux; y tenor Bogdan Volkov, a’r bariton Christopher Maltman.
Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg.
Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.
Trêl