galeri


Met Opera Live: Fedora (Giordano)

image

Mae drama gyffrous Umberto Giordano yn dychwelyd i repertoire y Met am y tro cyntaf ers 25 mlynedd. 


Mae Fedora yn llawn alawon cofiadwy, arias ardderchog a gwrthdaro gwyllt, gyda chast o leisiau cyffrous, ac mae cynhyrchiad newydd y Met yn sicr o gyflwyno hyn i gyd. 

Mae’r soprano, Sonya Yoncheva, un o artistiaid mwyaf hudolus heddiw, yn chwarae rhan Fedora, tywysoges o Rwsia o’r 19eg ganrif sy’n syrthio mewn cariad â llofrudd ei dyweddi, Iarll Loris - y tenor, Piotr Beczala. Y soprano, Rosa Feola, yw’r Iarlles Olga, cyfeilles fynwesol Fedora, a’r bariton, Artur Ruciński, yw’r diplomydd De Siriex. Maestro tra hoff y Met, Marc Armiliato, sy’n arwain. 

Mae’r Cyfarwyddwr, David McVicar, yn cyflwyno llwyfan manwl a dramatig sy’n seiliedig ar set sefydlog ddyfeisgar sydd, fel doli nythu Rwsiaidd, yn datblygu i ddatgelu tri lleoliad arbennig yr opera – palas yn St. Petersburg, salon ffasiynol ym Mharis, a fila hyfryd yn Alpau’r Swistir. 

Darllediad byw o’r Metropolitan Opera (Efrog Newydd). Perfformir yn Eidaleg gydag is-deitlau Saesneg.

Tocyn tymor (10 darllediad byw) ar gael – cyfle i arbed £20. Tocynnau tymor ar gael wrth ychwanegu pob sioe i eich cart ar-lein (bydd y disgownt yn cael ei rhoi awtomatig), o’r Swyddfa Docynnau mewn person neu drwy ffonio 01286 685 222.

17:55 - Dydd Sadwrn, 14 Ionawr Tocynnau


Trêl