galeri


NT Live: Othello [12A TBC]

image

National Theatre Live yn cyflwyno 
Othello 
gan William Shakespeare wedi’i chyfarwyddo gan Clint Dyer 

Cynhyrchiad newydd hynod o drasiedi fwyaf oesol Shakespeare, wedi’i gyfarwyddo gan Clint Dyer gyda chast sy’n cynnwys Giles Terera (Hamilton), Rosy McEwan (The Alienist) a Paul Hilton (The Inheritance).

Mae hi’n ferch fywiog, bengref i seneddwr, wedi’i dyrchafu gan ei statws ond ei rhwystro gan ddisgwyliadau hynny. Mae o’n ffoadur rhag caethwasiaeth; ar ôl codi i frig byd gwyn, mae’n darganfod bod cost i gariad ar draws llinellau hil. 

Ar ôl priodi yn dawel bach, mae Desdemona ac Othello yn dyheu am fywyd newydd gyda’i gilydd. Ond wrth i rymoedd cudd gynllwynio yn eu herbyn, maen nhw’n gweld nad yw eu dyfodol yn perthyn iddyn nhw. 

Mae Othello wedi’i ffilmio’n fyw ar lwyfan Lyttleton yn y Theatr Genedlaethol yn Llundain.

19:00 - Dydd Iau, 23 Chwefror Tocynnau