galeri


Gwyl Delynau Cymru Cyngerdd yr Ŵyl

image

Mae cyngerdd yr Ŵyl yn cynnwys dwy o sêr disgleiriaf Cymru: y delynores glasurol wych,Gwenllian Llŷr, a meistr y delyn jazz,Ben Creighton-Griffithsgyda'i fand,Transatlantic Hot Clubgan gynnwys Adrien Chevalier (Ffidil) ac Ashley John Long (Bas Dwbl).


MaeGwenllianwedi ennill cydnabyddiaeth yn rhyngwladol am ei pherfformiadau carismatig, egnïol gan gynnwys gwobr yng Nghystadleuaeth Telyn fawreddog America yn Indiana.Bydd hi'n perfformio cerddoriaeth newydd "Melangell" gan Mared Emlyn, a "Fantasia ar Calon Lân" o'i gwaith ei hun


Mae'n bleser gan yr ŵyl groesawuBenyn ôl i'r ŵyl gyda dau gerddor gwych o Efrog Newydd a Chymru i berfformio clasuron Jazz yr oes swing, clasuron o repertoire Jazz Sipsiwn Ffrengig (wedi'u hysbrydoli gan Django Reinhardt a Stephane Grapelli) a threfnianau jazz ar alawon Romani a'rBalcanau.

19:30 - Dydd Iau, 9 Ebrill Tocynnau