galeri


Cyngerdd FIESTA concert

image

Noson o gerddoriaeth sy’n dathlu un o ddegawdau mwyaf lliwgar yr ugeinfed ganrif.  Yn y rhan gyntaf ceir llond trol o hwyl gyda cherddoriaeth piano aml-law ac ambell i stori ddigri gan rhai o gymeriadau mwyaf arloesol y cyfnod: Erik Satie, Percy Grainger, William Walton a Camille Saint-Saëns.

Yn yr ail hanner rydym yn hynod falch i gael croesawu enillydd Cerddor Ifanc y BBC 2018 ac un o gyn-enillwyr Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru 2016, y pianydd disglair Lauren Zhang, yn ôl i berfformio rhaglen afaelgar a chyffrous.

19:45 - Dydd Sul, 3 Mai Tocynnau