galeri


John ac Alun

image

Ar ôl dathlu ugeinfed pen-blwydd eu sioe radio boblogaidd yn ddiweddar a chael eu derbyn i Orsedd y Beirdd, daeth blwyddyn John ac Alun i ben yn 2019 gyda rhyddhau albwm newydd wych – ‘Cyrraedd y Cychwyn’ ar label ARAN.

 

Disgwyliwch glywed rhywfaint o ddeunydd newydd o’r albwm yn ogystal â’r holl hen ffefrynnau, ynghyd â rhywfaint o’r sgwrs hamddenol y mae eu cynulleidfa radio yn ei mwynhau cymaint. Yn agor y noson fydd y gantores wlad ifanc, addawol Emma Marie, a bydd band byw gwych yn ei chefnogi hi a’r hogia drwy gydol y noson.

 

**PRYNWCH DOCYNNAU I BOB UN O'R 3 CYNGERDD AMERICANA AC ARBEDWCH £2 Y CYNGERDD (CYFANSWM O £6)** 

19:30 - Dydd Sadwrn, 8 Chwefror Tocynnau