galeri


Billy Connolly: The Sex Life of Bandages (18)

image

Yn cael ei ddisgrifio fel digrifwr mwyaf dylanwadol y DU erioed, mae’r anhygoel Billy Connolly yn dod i sinemâu gyda’r sioe ardderchog hon o’i daith stand yp olaf un.

 

Wedi’i recordio yn ystod ei daith yn Awstralia, mae’r perfformiad clyfar yn siwrnai afreolus sy’n llawn o straeon anhygoel a sylwadau deifiol am bethau hurt bob dydd. Yn cael ei dangos am un noson yn unig, bydd Connolly hefyd yn trafod ei yrfa, ei fywyd, a’i ddylanwad mewn cyfweliad hynod o bersonol a ffilmiwyd yn arbennig ar gyfer y sgrîn fawr.

 

★★★★  The Telegraph / The Guardian / The Evening Standard

19:30 - Dydd Iau, 10 Hydref Tocynnau