galeri


Dosbarth Meitstr Tirlun / Landscape Masterclass

image

Dosbarth Meitstr Tirlun gyda Glyn Price

Dydd Sul 9.06.19

11am-4pm

 

Mae tirlun gogledd Cymru yn ganolog i waith Glyn Price, y golau a lliwiau yn fywiog yn ei baentiadau.

Yn y dosbarth meistr hwn - bydd Glyn yn rhoi cyflwyniad i ddarlunio/paentio gan edrych yn benodol ar greu marciau, defnyddio tôn a darlunio siapiau. Bydd cyfle wedyn i ddefnyddio’r wybodaeth ac arbrofi er mwy creu cyfansoddiad diddorol o dirluniau.

 

Cynhelir y sesiwn yn ddwy-ieithog.

Darperir yr holl offer/nwyddau (ond croeso i fynychwyr ddod ac offer eu hunain)

Canllaw oed: 16+

11:00 - Dydd Sul, 9 Mehefin Tocynnau