galeri


Billy Elliot the Musical Live (20th Anniversary)

image

CinemaLive yn cyflwynoBilly Elliot The Musical Live (20thAnniversary celebration)

O’r llwyfan mawr i’r sgrin, mae’n bleser gennym gyflwyno cyfres The World’s Greatest Stage Musicals fel rhan o’r rhaglen sinema.

Yn seiliedig ar y ffilm a enwebwyd am Wobr yr Academi, mae Billy Elliot the Musical wedi ennill calonnau miliynau ers agor yn y West End yn Llundain yn 2005. Wedi'i gosod mewn tref lofaol ogleddol, yn erbyn cefndir streic y glowyr 1984/85, mae taith Billy yn ei dywys allan o'r cylch bocsio i mewn i ddosbarth bale lle mae'n darganfod angerdd am ddawns sy'n ysbrydoli ei deulu a'i gymuned gyfan ac yn newid ei fywyd am byth. Mae'r arwr cerddorol Elton John (cerddoriaeth) yn ymuno â'r tîm creadigol gwreiddiol tu ôl i'r ffilm, sy’n cynnwys yr awdur Lee Hall (llyfr a geiriau), y cyfarwyddwr Stephen Daldry, a’r coreograffydd, Peter Darling, i gynhyrchu profiad theatrig doniol, dyrchafol ac ysblennydd a fydd yn aros yn eich côf am byth.

19:00 - Dydd Mercher, 2 Ebrill Tocynnau