galeri


Iphigenia yn Sblot

image

Gadewch i Effie eich tywys chi trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i'w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw, drwy ei llygaid hi.

Mae bron i ddegawd ers iIphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd: gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.

Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024, gyda chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Daw cynhyrchiad newydd sbon pwerus Alice Eklund o'r addasiad newydd Cymraeg yma a'r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, maeIphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.

Perfformiad yn y Gymraeg. Bydd capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa. 

14:30 - Dydd Sadwrn, 28 Medi Tocynnau

19:30 - Dydd Sadwrn, 28 Medi Tocynnau