Ymunwch â’r artist Ross Andrews yn y gweithdy deuddydd hwn sy’n cyflwyno’r dechneg o adeiladu slab seramig. Bydd y sesiynau yma yn arwain cyfranogwyr trwy'r broses o grefftio llestri silindrog cyfoes, wedi'u haddurno â'u gweadau geometrig, gan ganolbwyntio ar archwilio ffurf a phatrwm.
Yn ogystal â’r gweithdy, bydd gan Ross arddangosfa yn Galeri a fydd yn agor ym mis Ebrill, gyda gosodiad serameg ar raddfa fawr o’r enw CURTAINS sy’n ymchwilio i themâu estheteg queer a ‘camp’. Fel artist queer, mae Ross yn ymgysylltu â theori queer a'r ddadl barhaus wrth ddiffinio ‘camp’. Bydd y darnau a wneir yn y gweithdy hwn yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag arddangosfa Ross trwy gydol mis Mehefin, i ddathlu mis Balchder.
Cwrs dau diwrnod Ebrill 14th& 15th. Mae'r gweithdai hyn ar gyfer pobl 16-25 oed.
Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost atffion.evans@galericaernarfon.comcyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
15:00 - Dydd Llun, 14 Ebrill Tocynnau