galeri


Catrin Finch & Cimarrón

image

Yn ôl yn 2007, fe wnaeth Catrin Finch y delynores o Gymru gwrdd â Cimarrón y band joropo o Golombia a chychwyn ar daith gyffrous o gwmpas Cymru. Gan ddathlu 16 mlynedd ers iddynt gydweithio, mae Catrin a Cimarrón yn dod at ei gilydd unwaith eto i deithio’r DU yn yr Haf…

Yn adnabyddus fel un o delynoresau gorau’r byd – mae gan Catrin Finch ddawn ryfeddol ac mae ei gyrfa gerddorol ynn cynnwys perfformiadau unigol gyda cherddorfeydd amlycaf y byd ac, yn fwy diweddar, cydweithrediadau gyda rhai o gerddorion blaenaf y blaned gan gynnwys Edmar Castaneda (Colombia), Toumani Diabate (Mali), Seckou Keita (Senegal) yn ogystal â Aoife Ní Bhriain (Iwerddon).

Mae Cimarrón yn fand 6 aelod sydd wedi’i enwebu am Grammy. Dan arweiniad y gantores Ana Veydo, maent yn perfformio cerddoriaeth ddawns joropo o wastatiroedd magu gwartheg yr Orinoco - wedi’i wreiddio mewn traddodiad dwfn a ddiffinnir gan dreftadaeth gymysg mestizo o ddiwylliannau Affrica, Sbaen a brodorol. Mae Cimarrón yn creu cerddoriaeth wyllt, nwyfus sy’n diogelu’r ysbryd o ryddid sy’n bodoli mewn un o ranbarthau mwyaf dilychwin y byd. Yn gyflym ac yn bwerus, mae eu cerddoriaeth yn cyfuno canu byrbwyll, dawnsio stomp anhygoel a hyfedredd y llinynnau a’r offerynnau taro.

Dyma gyfle prin i weld cydweithrediad byd-eang gwefreiddiol.

Cynhyrchiad Y Mwldan.

19:30 - Dydd Iau, 13 Gorffennaf Tocynnau