galeri


Imrie

image

Dyma’r parti sy’n newid ei byd am byth. Mae Josie yn darganfod parti hudolus o dan y dŵr sy'n well nag unrhyw barti dynol erioed. Mae'n fyd lle mae’n darganfod ei gwir hunan - ac Imrie Sallow. Uwchben y dŵr, mae hi ar goll mewn byd lle nad yw’n perthyn, â chwaer sydd eisiau iddi fod yn 'hapus a normal'. Ond yng nghysgodion y byd arallfydol daw cyfrinach teuluol i’r wyneb sy’n newid popeth. 

Wedi ei ysgrifennu gan Nia Morais (Crafangau / Claws, A Midsummer Night’s Dream gan Theatr y Sherman), mae Imrie yn stori i oedolion ifanc am obaith a dewrder. 

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans (Woof, Ynys Alys, Galwad).

Bydd pob perfformiad yn cynnwys capsiynau yn Gymraega Saesneg.

Canllaw oed: 13+

19:30 - Dydd Iau, 25 Mai Tocynnau

13:00 - Dydd Gwener, 26 Mai Tocynnau

19:30 - Dydd Gwener, 26 Mai Tocynnau