galeri


Prosiect Adfywio Canol Tref Caernarfon 2024

Rydym yn hynod falch cyhoeddi ein bod wedi derbyn cefnogaeth ariannol drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (Gogledd Cymru) ac yn aros am gadarnhad cyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi (i’w gadarnhau) ar gyfer buddsoddi mewn mwy o eiddo yng nganol tref Caernarfon.

Sefydlwyd Galeri Caernarfon Cyf (dan yr new Cwmni Tref Caernarfon yn wreiddiol) nol yn 1992, gyda’r bwriad o adfywio’r dref. Bryd hynny, roedd oddeutu 50% o adeiladau masnachol o fewn y waliau’r dref yn wag, ar werth (neu’r ddau) ac mewn cyflwr gwael.

Drwy sefydlu’r cwmni, fe wnaethom lwyddo i brynu dros 20 o adeiladau yn ystod y ddegawd cyntaf, a’r eiddo yma yn bennaf ar:

Roedd prynu, adnewyddu a gosod yr eiddo yma wedi cael effaith uniongyrchol ar edrychiad a chyflwr yr eiddo, gan ddenu busnesau nol i’r dref a thrwy hynny, greu swyddi a datblygu’r economi leol. Roedd y buddsoddiad a’r gwelliannau yma hefyd yn gatalydd i eraill fuddsoddi, uwchraddio eiddo a sefydlu yn y dref.

Ein bwriad yn ystod 2024 yw cwblhau pryniant 4 eiddo yn y dref, eu adfywio a’u gosod allan fel unedau gwaith a byw.


Cyfle Tendro

Mae cyfle wedi codi i wneud tendr i hwyluso darparu gwasanaethau cynghorwyr dylunio pensaernïol RIBA 0-7 ar gyfer 4 lleoliad masnachol ar lawr a thai preswyl ar lawr uchaf yn 38 a 40 Bont Bridd, 6 Stryd Llyn a 34 Stryd Fawr, Caernarfon.

Mae'r dogfennau canlynol ar gael i'w lawrlwytho a byddant yn rhoi manylion pellach am y prosiect a'r broses tendr:

Rhaid cyflwyno ymatebion i'r tendr drwy yrru e-bost i Gwyn Williams ar gwyn.williams@bic-innovation.com erbyn 12:00 (hanner dydd) ar dydd Iau, 4ydd o Ionawr 2024.

Gall y rhai sy'n tendro geisio eglurhad erbyn 12:00 (hanner dydd) ar 21.12.2023 drwy e-bost i gwyn.williams@bic-innovation.com